Telford 1-2 Wrecsam

Clwb pêl-droed Wrecsam

Er gwaethaf cyfleoedd i'r ddau dîm, di-sgôr oedd pethau ar yr egwyl.

A pharhaodd hi'n ddi-sgôr am gryn dipyn o'r ail hanner hefyd, nes i Dean Keates sgorio cic o'r smotyn i Wrecsam wedi awr o chwarae.

Ond o fewn pum munud roedd y sgôr yn gyfartal ar ôl i Connor Jennings lwyddo i ganfod cefn rhwyd ei dîm ei hun.

Llwyddodd Wrecsam i sicrhau buddugoliaeth, diolch i gôl gan Luke Waterfall.