Gwagio clwb llafur ar ôl tân 'bwriadol'

Tan Image copyright Kate Parker

Roedd rhaid gwagio clwb llafur yng Nghaerffili ddydd Sul ar ôl i dân ddifrodi'r adeilad.

Cafodd yr heddlu eu galw i Glwb Llafur Aneurin ar Heol Aneurin, Penyrheol am tua 18:00 ddydd Sul, ac maen nhw'n ymchwilio.

Er bod pobl yn yr adeilad ar y pryd, ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Mae'r heddlu yn credu bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101.