Athrawon yn streicio yn Wrecsam

ysgol Darland
Image caption Cafodd rhieni eu rhybuddio am y streic mewn llythyr ddydd Gwener

Mae streic dau ddiwrnod yn cael ei chynnal gan athrawon mewn ysgol uwchradd yn Wrecsam ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Mae swyddogion undeb yn beio anghydfod ynglŷn â newid mewn arferion gwaith, gan ychwanegu at lwythi gwaith yr athrawon.

Fe ddywedodd undeb yr athrawon NASUWT eu bod yn cymryd camau ddydd Mawrth a dydd Mercher yn Ysgol Uwchradd Darland, ym mhentref yr Orsedd, gyda dau ddiwrnod pellach ar y gweill ym mis Mai.

Mae'r ysgol wedi ymddiheuro i rieni am effaith y gweithredu, sy'n golygu bod yr ysgol ar agor i ddisgyblion blwyddyn 11 yn unig.