Llofruddiaeth Pontypridd: Dyn yn Llys y Goron

Christopher May
Image caption Mae Christopher May wedi ei gyhuddo o lofruddio Tracey Woodford

Mae dyn 50 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw ym Mhontypridd wedi ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Christopher May yn ymddangos ar gyswllt fideo, a siaradodd i gadarnhau ei enw a'i fod yn deall beth oedd yn cael ei ddweud yn y llys.

Clywodd y llys bod Mr May wedi ei gyhuddo o lofruddio Tracey Woodford rhwng 20-25 Ebrill.

Cafodd yr achos ei ohirio tan y gwrandawiad nesaf ar 21 Gorffennaf, ac fe gafodd Mr May ei gadw yn y ddalfa.

Straeon perthnasol