Etholiad 2015: Cip ar y Ceidwadwyr

Stephen Crabb
Image caption Stephen Crabb sy'n arwain ymgyrch y blaid yng Nghymru

Lai na 20 mlynedd yn ôl, doedd gan y Ceidwadwyr yr un aelod seneddol yng Nghymru.

Ar noson etholiad 2010 roedd yna wyth aelod yn gwisgo rosette glas ar ôl cyfri'r pleidleisiau - cynnydd o bump yn etholiad 2005.

Roedd y cynnydd hwnnw'n ddigon i alluogi i David Cameron symud tŷ i Downing Street, ond dim yn ddigon iddo sicrhau mwyafrif i'w blaid - ac mae'r arolygon barn yn awgrymu na fydd hynny'n digwydd eleni chwaith.

Does dim dwywaith taw'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi eu niweidio fwya' o glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr, ond mae'n debyg y bydd gan y ddwy blaid sydd wedi llywodraethu ers 2010 lai o seddi yn y Senedd nesa' nag oedd ganddyn nhw yn yr un flaenorol.

'Wedi tyfu'n raddol'

Pan deithiodd David Cameron i Lanelwedd i lansio maniffesto'r blaid yng Nghymru bythefnos yn ôl dyma oedd ei neges: "Gyda phleidleiswyr Cymru, beth am i ni ddweud hyn: efallai mai coch yw lliw'r ddraig ar ein baner, ond fe fydd ein gwlad ni wastad yn well yn las."

Mae'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi tyfu'n raddol ers diwedd y ganrif ddiwetha' - nhw yw'r wrthblaid swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd erbyn hyn, gyda 14 allan o 60 sedd.

Yn yr etholiadau Ewropeaidd yn 2009, y Ceidwadwyr enillodd y bleidlais yng Nghymru a churo Llafur am y tro cyntaf ers 1918.

Dw i'n cofio gweld David Cameron ar y grisiau tu allan i'r Senedd yn dweud nad oedd yna seddi diogel i'r blaid Lafur yng Nghymru yn dilyn y canlyniad hwnnw.

Nid felly yr oedd hi flwyddyn yn ddiweddarach yn etholiad cyffredinol yn 2010 - fe enillodd Llafur 26 o'r 40 sedd yng Nghymru.

Amddiffyn wyth sedd

Mae'r Ceidwadwyr yn amddiffyn seddi Aberconwy, Bro Morgannwg, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Clwyd, Maldwyn, Myrddin a Phreseli Penfro.

Ynghyd â dal eu gafael ar y seddi hynny, maen nhw'n targedu Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol, a Gŵyr gan Lafur.

Yn ôl Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru sy'n arwain ymgyrch y blaid yng Nghymru, y gwasanaeth iechyd yw'r pwnc y mae pobl yn awyddus i'w drafod - a hynny er bod iechyd wedi ei ddatganoli.

"Dw i'n anghytuno nad oes gan San Steffan gyswllt â'r mater, oherwydd mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus a'r GIG gael economi gref yn gefn iddyn nhw," meddai Mr Crabb mewn cyfweliad â BBC Cymru.

Ymweliadau'r ymgyrch

Mae lleoliadau'r ymweliadau gan ffigyrau blaenllaw unrhyw blaid yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn rhoi syniad o ble mae'r blaid honno yn meddwl ei bod hi'n gwneud yn dda.

Felly roedd dewis Llanelwedd yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed - sedd y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill yn y pedwar etholiad diwethaf - yn arwyddocaol.

Ges i air gyda'r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon yr wythnos ddiwethaf tra'r oedd o'n ymweld â sedd ymylol arall, Gogledd Caerdydd.

Dywedodd Mr Fallon ei fod o'n obeithiol iawn o gipio Brycheiniog a Sir Faesyfed ar ôl ei ymweliad yno ychydig oriau cyn iddo gyrraedd y brifddinas.

Y Ceidwadwr diwethaf i enill yno oedd Jonathan Evans, sydd newydd ymddeol o Dŷ'r Cyffredin ar ôl cynrychioli Gogledd Caerdydd i'r Ceidwadwyr ers 2005.

Mi fydd hi'n dalcen caled i'r Ceidwadwyr ennill yno eto - ac mae'r Blaid Lafur yn hyderus iawn o ad-ennill y sedd.

Disodli Llafur?

Fe ofynnais i Lleu Williams, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, faint o dasg yw hi i ddisodli Llafur fel y brif blaid yng Nghymru?

Wrth ymateb, dywedodd: "Er y byddai'n dasg anferthol i'r Ceidwadwyr ddisodli'r blaid Lafur yng Nghymru, dylid nodi bod yna gynnydd graddol wedi bod yn y gefnogaeth i'r blaid dros y pymtheg mlynedd diwethaf, yn enwedig yn etholiadau'r Cynulliad.

"Mae lefelau eu cefnogaeth hefyd wedi bod yn gyson dros y pum mlynedd diwethaf, oddeutu 23%. Hyn oll ar adeg lle maen nhw wedi canolbwyntio ar wneud toriadau i wasanethau cyhoeddus, er bod 28% o Gymry yn gweithio yn y sector cyhoeddus.

"Yr her i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yma fydd cadw'r seddi sydd ganddyn nhw'n barod. Mae'n anodd rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn cipio llawer o seddi ychwanegol, ar wahân efallai i Frycheiniog a Sir Faesyfed.

"Mewn etholiad agos, fe fydd cadw cymaint o seddi â phosib o bwysigrwydd mawr ar lefel cenedlaethol i lwyddiant David Cameron fis Mai."