Tân eithin ger cartrefi wedi ei ddiffodd ym Mhorth Tywyn

Tân eithin Image copyright @scarletmarc/Twitter
Image caption Mae'r tân yn agos i gartrefi ger Mynydd Graig

Mae tân eithin mawr ger cartrefi yn Sir Gaerfyrddin wnaeth arwain at gau ffordd wedi ei ddiffodd.

Bu A484 Heol Gwscwm ym Mhorth Tywyn, Llanelli, ar gau ac mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod yn gweithio â'r gwasanaeth tân i sicrhau diogelwch trigolion.

Mae pum injan dân yn bresennol yn y digwyddiad ar Mynydd Graig, welodd 17 erw o dir ar dân.

Er i'r tân ymddangos i fod yn nesu at gartrefi, dywedodd un dyn lleol nad oedd wedi clywed am unrhyw un yn cael eu symud o'u tai.