Snwcer: Pencampwriaeth siomedig i'r Cymry

Matthew Stevens Image copyright Getty Images
Image caption Bu Matthew Stevens yn ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 2000 a 2005

Fe ddywedodd Matthew Stevens bod digon o bethau positif wedi digwydd ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd er iddo golli 13-5 yn yr ail rownd i Ronnie O'Sullivan.

Daeth y chwaraewr 37 oed drwy dair rownd rhagbrofol cyn curo Cymro arall, Mark Williams, yn y rownd gyntaf go iawn yn y Crucible yn Sheffield.

Dywedodd wrth y BBC: "Rwyf wedi dangos ychydig o'r hyn rydw i'n gallu 'neud ac fe alla' i fynd â hynny ymlaen i'r flwyddyn nesaf."

Roedd ganddo anaf i'w wddf wrth i sesiwn olaf ei gêm yn erbyn O'Sullivan ddechrau ddydd Llun, ond mynnodd nad oedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth i'r canlyniad.

Bu'r bencampwriaeth yn un siomedig i'r Cymry.

Collodd Jamie Jones a Ryan Day yn drwm yn y rownd gyntaf yn Sheffield cyn i Stevens guro'r pedwerydd Cymro - mae Mark Williams wedi bod yn bencampwr ar ddau achlysur.

Mae Stevens ei hun wedi bod yn y rownd derfynol ddwywaith, ond roedd yn cyfadde' bod O'Sullivan - pencampwr y byd bum gwaith - yn rhy dda.