Taith Ffarwel Stephen ac Owen

Un o nodweddion yr ymgyrch etholiadol yng Nghymru yw penderfyniad Llafur a'r Ceidwadwyr i ddefnyddio eu llefarwyr seneddol Cymreig i arwain eu hymgyrchoedd eleni. Rwyf wedi nodi o'r blaen nad dyna sy'n digwydd yn yr Alban ac ar un olwg mae hwpo'ch arweinydd Cymreig yn y sedd gefn yn ystod ymgyrch etholiadol yn beth rhyfedd ar y naw.

I wneud y peth yn fwy rhyfedd byth mae'n ddigon posib na fydd swyddi presennol Stephen Crabb ac Owen Smith yn bodoli ymhen ychydig wythnosau. Oherwydd ambell i ynys a chraig mae hi o hyd yn wir i ddweud nad yw'r haul byth yn machlud ar diroedd Prydain - ond mae'n ymddangos i mi ei bod hi o bosib yn gyfnos ar Dŷ Gwydyr.

Os nad yw'r arolygon barn yn gwbl gyfeiliornus ac oni cheir rhyw newid rhyfeddol munud olaf ymhen deng niwrnod fe fydd Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol mwy neu lai yn diflannu o fap gwleidyddol yr Alban. Mae hynny eisoes wedi digwydd i'r Ceidwadwyr wrth gwrs.

Mae'r posibilrwydd yna'n codi cwestiwn diddorol. Yn y fath amgylchiadau pwy ar y ddaear fyddai David Cameron neu Ed Miliband yn penodi'n Ysgrifennydd yr Alban? Mae'n ddigon posib, yn debygol hyd yn oed, na fydd 'na Aelod Seneddol cymwys o'r Alban ac fe fyddai penodi aelod o Dŷ'r Arglwyddi neu Aelod Seneddol o Loegr yn wleidyddol wenwynig.

Chwi gofiwch, mae'n debyg, y ffordd yr oedd John Redwood, William Hague a'u tebyg yn cael ei gwawdio fel "Governor Generals" yn ôl yn y ganrif ddiwethaf. Meddyliwch sut groeso fyddai 'na i ffigwr felly yn yr Alban.

Un ateb posib fyddai creu rhyw fath o adran i'r cenhedloedd neu'r cyfansoddiad - adran fyddai'n cyfuno swyddfeydd presennol yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghyd efallai ac elfennau o'r Swyddfa Gartref. Os felly, hwyl fawr, Swyddfa Cymru, nos da, Ysgrifennydd Gwladol!

Corff arall sydd o bosib a'i ddyddiau wedi eu rhifo yw'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Unwaith yn rhagor digwyddiadau posib yn yr Alban sy'n hogi'r fwyell.

Mae pwyllgorau seneddol yn adlewyrchu cyfansoddiad Tŷ'r Cyffredin yn ei gyfanrwydd er bod 'na ryw faint o hyblygrwydd. Mae 5 o'r 14 aelod a'r Bwyllgor Gogledd Iwerddon, er enghraifft yn cynrychioli pleidiau'r dalaith.

Serch hynny sut ar y ddaear fyddai ffurfio pwyllgor ac unrhyw hygrededd o gwbwl i ddelio ac Alban oedd yn felyn o'i chorryn i'w sawdl? Heb bwyllgor Albanaidd a fyddai 'na bwyllgor Cymreig? Mae'n anodd gwybod.

Ydy Stephen Crabb ac Owen Smith ar ryw fath o daith ffarwel felly? Mae'n ddigon posib eu bod nhw. Sut mae Carwyn Jones ac Andrew R.T Davies yn teimlo ynghylch hynny, tybed?