Achos Amelia: Anfon rheithgor adref

Amelia Jones Image copyright Gwent Police
Image caption Bu farw Amelia Jones o waedu "difrifol" i'w hymennydd

Mae rheithgor yn achos dyn o Gwmbrân sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wyres bum wythnos oed wedi cael eu hanfon adref am y noson.

Fe fydden nhw yn ailymgynnull fore Mercher yn Llys y Goron Casnewydd ac yn parhau i ystyried eu dyfarniad yn achos Mark Jones, 45 oed.

Mae o'n gwadu llofruddio Amelia Jones tra'n ei gwarchod tair blynedd yn ôl.

Bu farw Amelia ddau ddiwrnod wedi i'r heddlu gael eu galw i gartref ym Mhontnewydd ym mis Tachwedd 2012.