Cyfarfod: Cytundeb ar gynllun i daclo tanau bwriadol

Tân Ynyshir Image copyright @johnbulpin59/Twitter
Image caption Fe wnaeth John Bulpin dynnu'r llun yma o awyren fechan o dân yn Ynyshir

Bydd cynghorau ac aelodau o'r cyhoedd yn gwneud mwy i adnabod pan fydd tanau'n cael eu cynnau'n fwriadol, yn ôl gweinidog gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews.

Roedd Mr Andrews yn siarad ar ôl cyfarfod arbennig rhwng yr heddlu, y gwasanaeth tân a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghaerdydd ddydd Mercher i drafod sut i atal tanau gwair bwriadol.

Dywedodd bod 'na gytundeb i gynnal mwy o archwiliadau cymunedol, a defnyddio mwy ar gamerâu cylch cyfyng, a hynny heb yr angen am fwy o arian gan Lywodraeth Cymru.

Doedd dim sôn am ehangu ar y cyhuddiadau sydd gan yr heddlu ar hyn o bryd mewn cysylltiad â llosgi bwriadol.

Yn ôl Mr Andrews, bydd 'na adolygu parhaol o raglen addysgol y gwasanaeth tân, ond dywedodd fod y cynllun yn gweithio'n dda hyd yma.

Meddai: "Roedd y cyfarfod yn codi nifer o faterion pwysig. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda'n partneriaid ar y mater hwn i sefydlu pa newidiadau sydd eu hangen o ran addysg, goruchwylio gwell, cosbau llymach a gwell rheolaeth tir i atal y cylch tymhorol a diwylliannol hwn."

'Cam pwysig'

Ychwanegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Roedd y cyfarfod ddydd Mercher yn gam pwysig i barhau â'r cydweithio sydd ei angen i daclo'r ymddygiad peryglus, dinistriol, troseddol hwn.

"Rwy'n canmol y gwasanaeth tân ac achub, ac ymladdwyr tân unigol, am eu hymateb i'r achosion hyn ac yn croesawu safbwynt llym Heddlu De Cymru, ond rwy'n cydnabod fod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i chwarae.

"Rydym wedi cyhoeddi rhaglen o gydweithio rhwng y llywodraeth, y gwasanaeth tân, yr heddlu, ysgolion, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi llunio rhaglen glir o gydlynu ar gyfer y tymor byr, canolig a hir."

Image caption Bu tân arall yng Ngodre'r Graig rhwng Pontardawe ac Ystalyfera'r wythnos diwethaf

Cyfnod prysur

Cafodd y cyfarfod ei drefnu wedi cyfnod prysur iawn i wasanaethau tân, sydd wedi bod yn delio gyda channoedd o danau gwair bwriadol ar draws Cymru.

Mae'r rhan fwya' o'r tanau wedi'u cynnau yn ne Cymru - ers 1 Ebrill mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi eu galw i dros 850 o danau gwair bwriadol.

Mae nifer o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r achosion.

Image caption Fe lwyddodd diffoddwyr i reoli tân anferth ar fynydd Machen yr wythnos diwethaf

'Effaith drychinebus'

Dywedodd reolwr uned droseddau Gwasanaeth Tân De Cymru Emma Bushell: "Dyw e bendant ddim yn hwyl sydd heb risg, oherwydd y risg i'r gymuned ac i fywyd gwyllt.

"Gallai gael effaith drychinebus ar bobl yn y gymuned."

Er i'r gwasanaeth ddelio â dros 8,000 o alwadau ym mis Mawrth a mis Ebrill, dywedodd Ms Bushell nad yw hyn yn teimlo'n waeth nac unrhyw flwyddyn arall.

"Mae hi'n broblem hanesyddol yng Nghymru bod pobl yn dechrau tanau gwair," meddai.

"Mae'n ymddangos, oherwydd y sylw gan y cyfryngau eleni, mae'r gymuned yn dweud, 'Rydyn ni eisiau i hyn stopio', sy'n wych."

Yn y cyfamser, mae elusen Taclo'r Tacle yn cynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth am gyfres o danau gwair bwriadol yn y de.

Dywedodd Stuart Taylor o'r elusen ei fod yn "bwysig dal y rheiny sy'n gyfrifol cyn i rywun gael eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd".

Straeon perthnasol