Osborne ym Mhowys yn addo grym a thwf

George Osborne
Image caption Dechreuodd George Osborne ei ymweliad wrth fwydo defaid yn Nhalgarth

Mae'r Canghellor George Osborne wedi addo deddf yn rhoi mwy o bwerau i Gymru yn y 100 diwrnod cynta' petai'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad.

Gyda dim ond wyth niwrnod cyn yr etholiad cyffredinol, mae'r Canghellor George Osborne wedi bod yn ymgyrchu ym Mhowys ddydd Mercher, gan ddweud fod economi Cymru'n "sylfaenol well na bum mlynedd yn ôl."

Dywedodd Llafur fod addewidion y Ceidwadwyr yn "ddim byd ond twyll", tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio fod datganoli wedi "symud yn gyflymach" oherwydd eu rôl nhw mewn llywodraeth.

Daeth sylwadau Mr Osborne ddiwrnod ar ôl y newyddion fod twf economaidd wedi arafu ym Mhrydain yn ystod tri mis cynta'r flwyddyn - i -0.3%, sy'n hanner yr hyn yr oedd yn ystod chwarter ola' 2014.

"Mae'r economi'n parhau i dyfu," meddai Mr Osborne. "Ond allwn ni ddim cymryd adferiad yn ganiataol."

'Tyfu gyflymaf'

Ychwanegodd: "Mae'r sefyllfa yng Nghymru'n well nag yr oedd bum mlynedd yn ôl. Roedd Cymru'n un o rannau tlota' y DU - nawr mae'r rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain."

"Mae 54,000 o swyddi wedi cael eu creu, rydyn ni wedi ymrwymo i brosiectau isadeiledd mawr fel yr M4, trydaneiddio'r rheilffyrdd a lagŵn Bae Abertawe," ychwanegodd.

"Pam peryglu hynny i gyd?"

Ond mae Llafur wedi disgrifio addewidion Mr Osborne ar gyfer mwy o gyllid i Gymru fel "dim byd ond twyll", gan honni fod y Ceidwadwyr yn ceisio gorfodi Cymru i gynnal refferendwm ar dreth incwm. Dywedon nhw y byddai Llafur yn sicrhau arian teg i Gymru heb unrhyw amodau ynghlwm.

Dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott: "Mae datganoli yng Nghymru wedi symud yn gyflymach gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn llywodraeth nag ar unrhyw adeg arall dros y 10 mlynedd diwetha'.

"Fe wnaethon ni gyflawni hyn er gwaetha' llawer o wrthwynebiad gan y Ceidwadwyr.

"Fydd y Torïaid ond yn addo cyllid teg i Gymru gydag amodau ynghlwm," ychwanegodd.

Credyd treth

Yn y cyfamser, mae arweinydd Llafur wedi addo y bydden nhw'n cynyddu credydau treth gyda chwyddiant bob blwyddyn, gan ddadlau y byddai "miliynau" o deuluoedd mewn perygl o golli arian dan y Ceidwadwyr.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Mr Miliband am wrthod a dweud a fyddai Cymru'n cael ei hamddiffyn rhag toriadau petai o'n brif weinidog.

Dywedodd Mr Miliband y byddai 'na £350m yn ychwanegol i Gymru trwy drethi newydd yn y flwyddyn gynta' o lywodraeth Lafur, ond y byddai'r darlun tymor hir yn dibynnu ar adolygiad gwariant.

Meddai AC Plaid Cymru, Elin Jones, wrth BBC Cymru: "Rydyn ni'n credu ei bod hi'n amser i Gymru a'r Alban gael eu trin yr un fath gan Drysorlys y DU, ac er mwyn i hynny ddigwydd mae angen £1.2bn ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru i ariannu ein hysbytai a'n hysgolion."

Taith Etholiad

Image copyright jane baker
Image caption Fe fydd Taith Etholiad BBC Cymru yn cyrraedd Llandudno ddydd Mercher

Wrth i'r ymgyrchu barhau, roedd Taith Etholiad BBC Cymru wedi cyrraedd Llandudno ac etholaeth Aberconwy ddydd Mercher, gyda rhaglenni yn darlledu'n fyw o'r promenâd yn Llandudno, a chyfle i drafod y pynciau llosg yn yr ardal.

Mae canllaw i'r etholaeth, a phob etholaeth arall, ar gael yma.