Nepal
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Nepal: 'Teimlo fel diwedd y byd'

28 Ebrill 2015 Diweddarwyd 21:28 BST

"Ro'n i'n teimlo fel tase diwedd y byd yn dod."

Dyna eiriau dyn camera o Gymru oedd yn Nepal pan darodd y daeargryn nerthol ddydd Sadwrn.

Mae dros 5,000 o bobl wedi marw ond fe all y ffigwr terfynol fod llawer uwch, ac mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod y daeargryn wedi effeithio ar 8 miliwn o bobl.

Yn ôl Huw Talfryn Walters, dyw ymateb Prydain i'r drychineb heb fod yn ddigon cyflym.