Ymchwiliad i is-raddio swyddi Llyfrgell Genedlaethol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru Image copyright Ian Capper/Geograph
Image caption Bydd y darganfyddiadau yn cael eu cyflwyno i fwrdd ymddiriedolwyr y llyfrgell ym mis Gorffennaf

Mae archwilwyr annibynnol wedi cael eu hapwyntio i gynnal ymchwiliad i achos dau o uwch-swyddogion, wedi i'w swyddi gael eu his-raddio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Fe gafodd yr arolwg ei gomisiynu wedi i dribiwnlys ddyfarnu bod swyddi Arwel Jones ac Elwyn Williams wedi cael eu his-raddio yn annheg.

Bydd Price Waterhouse Cooper yn edrych ar yr amgylchiadau.

Fe fydd eu darganfyddiadau yn cael eu cyflwyno i fwrdd ymddiriedolwyr y llyfrgell ym mis Gorffennaf.