Tri dyn o Wrecsam 'i gael eu hachub' yn Nepal

Darren Russell, Daniel Hughes a Jason Russell
Image caption Mae Darren Russell, Daniel Hughes a Jason Russell wedi bod yn sownd am bedwar diwrnod

Mae gobaith y bydd dau frawd a'u ffrind sydd wedi bod yn sownd mewn pentref na ellir ei gyrraedd o ganlyniad i'r daeargryn yn Nepal ddydd Sadwrn yn cael eu hachub gan hofrennydd.

Mae Jason Russell, 28 oed, ei frawd Darren, 26 oed, a Daniel Hughes, 36 oed, o Wrecsam, ym mhentref Talu, ychydig dros 50 milltir (90 cilometr) o Kathmandu.

Mae dros 5,000 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r daeargryn, oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter.

Dywedodd Om Shahi, cyfarwyddwr Hard Rock Trek, y cwmni oedd yn tywys y dynion, bod cymorth ar ei ffordd.

"Maen nhw i gyd yn iawn," meddai Mr Shahi wrth BBC Cymru. "Mae 'na dirlithriad sy'n golygu bod y ffordd wedi ei chau.

"Maen nhw wedi bod yn sownd yn yr un lle am y pedwar diwrnod diwethaf."

Ychwanegodd: "Mae'r Weinyddiaeth Gartref yn Nepal wedi cadarnhau y bydd hofrennydd yn eu cludo i le o'r enw Trisuli Bazar, tref fechan sydd 70 cilometr o Kathmandu.

"Rwy'n meddwl y bydden nhw wedi cael eu hedfan oddi yno erbyn diwedd brynhawn ddydd Mercher."

Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod dyn o Brydain oedd yn byw dramor ymysg y rhai sydd wedi marw o ganlyniad i'r daeargryn.