UKIP yn cefnogi ymgeisydd sydd â record droseddol

Roedd Peter Bush yn rownd derfynol gwobrau Local Hero ITV yng Nghymru Image copyright ITV Wales
Image caption Roedd Peter Bush yn rownd derfynol gwobrau Local Hero ITV yng Nghymru

Mae UKIP yn dweud fod un o'u hymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol yn cael eu "cefnogaeth lawn", er bod ganddo record droseddol.

Roedd Peter Bush, sy'n sefyll yn Aberafan, wedi'i gael yn euog o ladrata a llosgi bwriadol yn y gorffennol.

Dywedodd UKIP fod Mr Bush "wedi talu ei ddyled i gymdeithas" a'i fod "wedi newid ei fywyd a bywydau nifer o bobl o'i gwmpas".

Mae'r blaid wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn ymwybodol o orffennol Mr Bush pan gafodd ei ddewis.

Mewn datganiad, dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill: "Roedd Peter, fel llanc ifanc, wedi gwneud camgymeriadau arweiniodd at garchar.

"Ond mae wedi newid ei fywyd ers hynny a bywydau nifer o bobl o'i gwmpas.

"Cymaint fel ei fod wedi ennill cyfres o wobrau am ei waith elusennol, yn arwain at gael ei enwebu a chyrraedd rownd derfynol gwobrau Local Hero ITV.

"Rydym yn falch o fod yn blaid sy'n derbyn pobl am yr hyn ydyn nhw, nid am gamgymeriadau'r gorffennol.

"Er bod y blaid yn galed ar dorcyfraith, rydym yn cydnabod fod pobl yn gallu troi dalen newydd.

"Rydyn ni, yn wahanol i bleidiau eraill yng Nghymru, yn edrych ar yr unigolyn, nid dim ond eu gorffennol."

Gellir gweld rhestr lawn o ymgeiswyr Aberafan yma.