Diwrnod Cymru Fyw yn Llandudno

llandudno

Llandudno, Napoli Cymru. Tref glan y môr, tref sy'n llawn o bensiynwyr.

Ac mae hi'n teimlo fel tref gwyliau gyda chymaint o westai ar y promenâd a phobl yn eistedd yn hamddenol yn gwylio'r llanw yn mynd i mewn ac allan. Does yna ddim prysurdeb mawr yma.

Wedi dod i "gael awyr iach y môr" am ychydig ddyddiau mae Carol Douglas. Mae hi'n byw yng Nghymru ond mae ei ffrind sy'n eistedd efo hi yn byw dros y ffin.

Dydy Carol ddim yn meddwl rhyw lawer o wleidyddion. "Dw i'n gwrando arnyn nhw ac maen nhw'n dweud: 'Os y byddwn ni mewn grym byddwn i'n gwneud hyn a'r llall. Ond maen nhw wedi bod wrthi ers sawl blwyddyn felly pam ddim gwneud y pethau yna adeg hynny?"

Mi oedd hi'n obeithiol pan gafodd y glymblaid ei ffurfio ond dywed nad oedd gan y Rhyddfrydwyr lais mewn gwirionedd. "Mi oedd yn wastraff amser."

Ond eisiau cadw'r status quo mae cwpl arall sy'n mochel rhag y gwynt mewn caban wrth ymyl y dŵr. Brec bach iddyn nhw ydy dod i Landudno hefyd. Mae'n gwneud synnwyr ariannol, medden nhw, i gymryd hoe am ychydig ddiwrnodau bob hyn a hyn yn hytrach na mynd i ffwrdd am un gwyliau mawr.

"Tydan ni'n arbed ein harian, dydan ni ddim yn gwario llawer," medd y gŵr. Dydy'r cwpl ddim yn teimlo bod bywyd yn rhy anodd iddyn nhw.

Ond mae Gareth Pritchard, sydd wedi byw yn Llandudno ers hanner can mlynedd, yn dweud ei bod hi'n anodd i gael gwaith yn yr ardal.

Twristiaeth ydy'r prif gynhaliaeth. "Ers talwm erbyn trydedd wythnos mis Awst mi oedden nhw (ymwelwyr) i gyd wedi mynd. Ond rwan maen nhw yma o ddydd Llun tan ddydd Gwener," medd y cyn brifathro. Mae o'n teimlo bod yna ormod o fflatiau wedi eu hadeiladu a mewnfudwyr yn dod i fyw yn y dref. "Mae o yn achosi andros o straen ar y Gwasanaeth Iechyd."

Image caption Mae Oliver ac Ann Roberts yn poeni fod pobl yn mynd dros y ffin i chwilio am swyddi

Mae Oliver Roberts a'i wraig Ann yn cytuno bod gwaith yn brin yn yr etholaeth. "Dydy'r swyddi ddim yn talu'n arbennig o dda. Does 'na ddim swyddi bras yma," medd Oliver.

Yn Llandrillo yn Rhos maen nhw'n byw ond yn dod i'r dref yn aml.

Y broblem yw bod pobl yn mynd dros y ffin i gael gwaith neu lawr i Gaerdydd. "Mae pobl yn tueddu i fynd lawr i'r ddinas fawr ddrwg boed hynny yn Gaerdydd neu Lundain ac yn aros yna," medd Oliver. Ond mae Ann yn teimlo bod rhai eisiau dod nôl i'w cynefin ar ôl cyrraedd rhyw oed.

Poeni am ei dyfodol mae Abigail Brown. 16 oed yw'r ferch ifanc ond yn gwybod ei bod hi eisiau mynd i'r brifysgol.

Y broblem ydy'r ffïoedd dysgu. Mae'n dweud bod ei rhieni yn pryderu am y gost a dyw hi ddim yn siwr a fydd hi'n gallu fforddio'r addysg. Mae addysg yng Nghymru wedi datganoli. Ac o dan y polisi presennol mae myfyrwyr o Gymru yn cael cymhorthdal hyd at £5500 ar gyfer eu ffioedd dysgu lle bynnag ym Mhrydain mae nhw'n dewis astudio.

Mi oedd hi'n rhy ifanc i gymryd fawr o sylw o'r etholiad diwethaf ond mae'r etholiad eleni wedi cydio yn ei diddordeb.

"Mi o'n i wedi synnu pa mor amharchus maen nhw tuag at ei gilydd," medd hi pan rydyn ni'n trafod y dadleuon teledu. "Maen nhw'n cynrychioli ein gwlad ni o gwmpas y byd - dydy hi ddim yn ddelwedd dda o wleidyddion." Y cecru a'r gweiddi sy'n golygu nad oes gan rai o'i ffrindiau ddiddordeb yn yr etholiad, medd hi.

Ond mae Matthew Walker, 17 oed, yn teimlo nad ydy gwleidyddion yn siarad digon gyda phobl ifanc am nad oes gan y rhai dan 18 hawl i bleidleisio.

Ac mewn etholaeth fach fel Aberconwy mae hynny efallai yn fwy gwir nag ardaloedd eraill. Fan hyn mae chwarter y boblogaeth dros 65 oed. Y bobl yma felly y bydd yr ymgeiswyr yn eu targedu rhwng rwan a 7 Mai.

Mae rhestr lawn o'r ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Aberconwy i'w weld ar dudalen yr etholaeth ar Cymru Fyw.

Mae modd dysgu mwy am yr etholiad ar adran Etholiad 2015 Cymru Fyw.

Canllaw maniffestos: Economi

Pwnc etholiadol allweddol ar gyfer nifer o bleidleiswyr, mae hyn yn cynnwys yr economi ehangach a lleihau'r diffyg ariannol, cyflogaeth a rôl byd busnes.