Carcharor yn euog o lofruddio

Llys Image copyright Lewis Clarke
Image caption Llys y Goron Caerdydd

Mae dyn oedd yn garcharor yng ngharchar Caerdydd wedi ei gael yn euog o lofruddio cyd-garcharor.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Colin Capp, 23, wedi ymosod ar Darren Thomas, 45, tra roedd Thomas yn cysgu yn eu cell yn y carchar.

Cafodd Mr Thomas ei drywanu dros 100 o weithiau gyda beiro, ond bu farw wedi i fag plastig gael ei glymu o amgylch ei ben.