Davies i fethu gêm Gwlad Belg wedi llawdriniaeth

Ben Davies Image copyright @Ben_Davies33/Twitter
Image caption Dywedodd Ben Davies ei fod yn gwella ar ôl y llawdriniaeth

Mae'n debyg na fydd amddiffynnwr Cymru, Ben Davies yn gallu chwarae yng ngêm ragbrofol Euro 2016 yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin ar ôl iddo gael llawdriniaeth.

Cafodd Davies yr anaf wrth chwarae i Tottenham yn erbyn Southampton yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn.

Cafodd Davies lawdriniaeth ar ôl datgymalu ei ysgwydd, ac mae'n debyg y bydd yn methu gweddill y tymor i Tottenham.

Er yr anaf i Davies, mae ymosodwr Real Madrid Gareth Bale wedi dechrau hyfforddi unwaith eto ar ôl anafu ei goes.

Yn trydar o'r ysbyty, dywedodd Davies: "Llawdriniaeth wedi llwyddo ac yn dechrau gwella. Diolch am eich holl negeseuon caredig."