Nepal: Dynion o Gymru yn ddiogel

Nepal

Mae tri dyn o Gymru gafodd eu dal mewn daeargryn yn Nepal wedi cyrraedd y brifddinas yn ddiogel, yn ôl chwaer un o'r dynion.

Roedd Jason Russell, 28 oed, o Riwabon, ei frawd Darren, 26, a Daniel Hughes, 36, i gyd ar y rhestr o bobl oedd ar goll wedi'r daeargryn ddydd Sadwrn.

Dywedodd chwaer Daniel Hughes, Joanne, bod y tri wedi eu darganfod ddydd Iau ym mhentref Tallu, ar ôl i hofrennydd fethu a dod o hyd iddyn nhw ddydd Mercher.

Cafodd y tri eu cludo i dref arall cyn cwblhau'r siwrne i Kathmandu ar y ffyrdd.

Mae'r dynion i gyd yn ddiogel ac yn iach.

Mae Cymro arall gafodd ei ddal yn y daeargryn ddydd Sadwrn wedi dweud ei fod am aros yn Nepal am o leiaf pedwar wythnos arall.

Dywedodd Iestyn Richards-Rees, sy'n 28 ac o Langyndeyrn, ei fod yn bwriadu "aros i helpu gyda'r ymgyrch dyngarol".

"Dwi'n teimlo bod rhaid i fi aros i geisio gwneud rhywbeth i helpu."