Ailagor lôn ar gylchdro pwysig

A483 approaching A55 junction Image copyright Google
Image caption Yr A483 yw un o'r ffyrdd prysuraf rhwng gogledd Cymru a gogledd Orllewin Lloegr.

Mae Asiantaeth Priffyrdd Lloegr wedi cyhoeddi y bydd trydedd lôn ar gylchdro prysur ar y ffin rhwng Wrecsam a Chaer yn ail agor am gyfnod byr ddechrau Mai.

Ar hyn o bryd mae gwaith £6 miliwn yn cael ei wneud i wella'r A55/A483 ac i leihau tagfeydd yn yr ardal.

Oherwydd y gwaith mae nifer y lonydd ar y cylchdro wedi eu cyfyngu o dair i ddwy.

Ond dywed yr Asiantaeth Priffyrdd y bydd tair lon ar agor rhwng Mai 6-8 a hynny er mwyn ymdopi â'r nifer fydd yn mynychu rasys ceffylau yng Nghaer.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth bod disgwyl i 65,000 o bobl i fynychu'r ŵyl rasys.

Ar ôl Mai 8, fe fydd nifer y lonydd ar y cylchdro yn gostwng i ddwy unwaith eto tan i'r prosiect gael ei gwblhau ar Fehefin 28.

Mae'r dyddiad yma fis yn hirach na'r disgwyl.

Fe ddechreuodd y gwaith ym Medi 2014.

Dywed yr asiantaeth fod hynny oherwydd bod angen gwaith ychwanegol i gryfhau pont a hefyd yr angen i ailagor lôn ar gyfer y rasys.

Ar ôl cael ei gwblhau fe fydd gan y cylchdro bedair lôn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.