Marwolaeth sgïo: Angladd bachgen saith oed

Sgio Image copyright Athena
Image caption Roedd Carwyn Scott-Howell yn sgïo ar ddiwrnod olaf gwyliau'r teulu

Mae dros 300 o bobl wedi mynychu angladd bachgen saith oed o Bowys a fu farw ar wyliau sgïo yn Ffrainc .

Cafodd angladd Carwyn Rhys Scott-Howell o bentre' Talybont-ar-Wysg ei cynnal yn Eglwys Santes Fair, Y Fenni, ddydd Gwener.

Bu farw Carwyn tra ar ei wyliau gyda'i deulu yn ardal Flaine, yn yr Alpau Ffrengig ar 11 Ebrill.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio i'w farwolaeth ar 23 Ebrill.

Clywodd y cwest fod Carwyn wedi disgyn o uchder oedd yn "ddigon i achosi ei farwolaeth",

Cafwyd hyd i'w gorff ar lethr.

Clywodd y cwest bod Carwyn wedi cael ei wahanu oddi wrth ei deulu cyn iddo farw.

Mae'r awdurdodau yn Ffrainc wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.

Straeon perthnasol