Arweinwyr yn wynebu cwestiynau etholwyr

Leanne Wood
Image caption Leanne Wood: Mynnu mwy o arian gan y Trysorlys

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud na fyddai'n diystyrru ffurfio cytundeb gyda Llafur ar ôl yr etholiad cyffredinol, hyd yn oed pe na bai'r SNP yn rhan o hynny.

Wrth siarad ar raglen BBC Cymru Ask Leanne Wood nos Iau dywedodd y byddai hi yn dechrau trafod gyda Ed Miliband pe bai hi'n meddwl y byddai hynny'n sicrhau gwell cytundeb i Gymru.

Ond ychwanegodd ei bod yn credu fod Mr Miliband yn "anghyfrifol i ddiystyrru cytundeb gyda'r SNP gan y gallai hynny agor y drws i lywodraeth Geidwadol."

Fe wnaeth hi ailddatgan ei barn fod yn rhaid i Gymru gael £1.2 biliwn yn ychwanegol o'r Trysorlys er mwyn cael ei thrin ar yr un lefel a'r Alban.

Nos Iau dywedodd yr arweinydd Llafur Ed Miliband na fyddai'n gwneud unrhyw gytundeb gyda'r SNP. Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod yr hyn sy'n wir am yr SNP hefyd yn wir ar Blaid Cymru, ac na fyddant yn gwneud unrhyw gytundeb gyda'r cenedlaetholwyr.

Fe wnaeth Mr Miliband ei sylwadau am yr SNP wrth iddo ef David Cameron, a Nick Clegg gael eu holi gan gynulleidfa rhaglen Question Time y BBC.

Roedd y tri yn cael eu holi ar wahân am gyfnod o hanner awr yr un.

Image copyright other
Image caption David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg

Yn ei ymddangosiad teledu e, fe wnaeth David Cameron fynnu na fyddai yn torri lwfans plant na chredyd treth pe bai'n ennill yr etholiad.

Roedd yn ymateb i gwestiwn o'r gynulleidfa.

Ond dywedodd Ed Miliband nad oedd e'n credu'r prif weinidog. Fe wnaeth arweinydd Llafur fynnu na fyddai'n dod i gytundeb gyda'r SNP.

Fe wnaeth o wynebu cwestiynau caled ar record economaidd Llafur, ond mynnodd nad oedd y blaid wedi gorwario yn ystod ei chyfnod mewn grym.

Pan gafodd Mr Cameron ei herio ynglŷn â beth fyddai'n wneud mewn senedd grog, dywedodd na fyddai'n "arwain Llywodraeth na fyddai'n gallu sicrhau refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd."

Dywedodd Mr Miliband nad oedd Llafur wedi gorwario mewn grym, ond fod wedi wynebu argyfwng ariannol byd eang.

Clymblaid

Ar gwestiwn senedd grog, dywedodd "petai llywodraeth Lafur yn dibynnu ar gytundeb neu glymblaid gyda'r SNP yna dyw hynny ddim am ddigwydd," meddai.

Cafodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg ei holi am y tro pedol ar ffioedd dysgu yn 2010.

Hefyd gofynnwyd iddo pam fod ei blaid wedi aros yn dawel cyhyd tra mewn clymblaid ynglŷn â'i honiadau fod y Ceidwadwyr wedi ceisio torri lwfans plant.

Dywedodd Mr Clegg: "Rydym wedi bod yn llawer mwy clir ar y 'llinellau coch' na fyddwn ni yn eu croesi mewn unrhyw drafodaethau clymblaid gyda Llafur neu'r Ceidwadwyr nag oedd yn wir yn 2010."

Ychwanegodd mai un o'r pethau fyddant yn ei fynnu oedd bod yn rhaid gwario £5 biliwn yn fwy ar addysg erbyn 2020.

Fel rhan o gytundeb rhwng y darlledwyr a'r gwahanol bleidiau fe wnaeth Leanne Wood, Nigel Farage, UKIP Nicola Sturgeon o'r SNP ymddangos mewn rhaglenni ar wahân yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Image caption Nigel Farage: Barod i dderbyn canlyniad refferendwm

Yn ei gyfweliad ef dywedodd arweinydd UKIP Nigel Farage y byddai'n derbyn canlyniad refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd pe bai'r refferendwm wedi ei gynnal yn deg.

Ond gwadodd y byddai pleidlais i barhau gydag aelodaeth o'r UE yn gwneud UKIP yn ddiwerth fel plaid.

"Edrychwch beth sydd wedi digwydd yn yr Alban. Fe wnaeth yr Albanwyr wrthod annibyniaeth ac eto mae'r SNP wedi cynyddu yn syfrdanol ers hynny."

Nos Wener bydd y ddadl deledu olaf rhwng y chwe phlaid yng Nghymru cyn y diwrnod pleidleisio.

Huw Edwards fydd yn cyflwyno The Wales Report Election Leaders' Debate yn fyw o Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Y chwech fydd yn cynrychioli eu pleidiau yw Stephen Crabb, Ceidwadwyr, Owen Smith, Llafur, Kirsty Williams, Democratiaid Rhyddfrydol, Leanne Wood, Plaid Cymru, Nathan Gill, UKIP a Pippa Bartolotti, y Blaid Werdd.