Miliband a Jones yn annerch rali yng Nghaerdydd

Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi dweud fod angen i bleidleiswyr Cymru sicrhau "nad yw David Cameron a UKIP yn sleifio i mewn drwy'r drws cefn".

Chwe diwrnod cyn i'r pleidleiswyr ddweud eu dweud, mae prif weinidog Cymru wedi ymuno ag Ed Miliband mewn rali yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May ymweld â'r ardal ddydd Gwener, hefyd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn pwysleisio addewid y blaid i gael gwared ar gytundebau dim oriau a chodi isafswm cyflog i'r 'cyflog byw' - £7.85 yr awr ar hyn o bryd - erbyn 2020.

'Moment fawr'

Mae'r arolygon barn yn awgrymu ei bod hi'n agos iawn rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, a bydd Mr Jones yn dweud fod angen i bleidleiswyr Cymru sicrhau "nad yw David Cameron a UKIP yn sleifio i mewn drwy'r drws cefn".

"Rydyn ni'n gwybod am y pynciau pwysicaf - yr economi, lles, y gwasanaeth iechyd ac Ewrop - y bydd pobl sydd wedi cefnogi Plaid, y Democratiaid a'r Gwyrddion yn y gorffennol yn ffafrio llywodraeth Lafur dros un Geidwadol.

"Ond, â'r etholiad mor agos, does dim ond un ffordd i wneud yn siŵr na fydd y Torïaid yn sleifio i mewn - mae'n rhaid cefnogi Llafur y tro hwn.

"Hon yw moment fawr Cymru, gyda'n harian, ein haelodaeth yn yr UE a'n economi ni yn ganolbwynt."