Cymru a'r sgrin fawr

Berwyn Rowlands

Efallai na fydd James Bond yn cael ei weld yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn fuan iawn, ond sut ddyfodol sydd yna erbyn hyn i berthynas Cymru gyda'r diwydiant ffilm?

Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Iris, sy'n trafod y sefyllfa gyda Cymru Fyw:

"Darlun ffals?"

Un o'r pethau gwaethaf ddigwyddodd i ffilm yng Nghymru oedd enwebiad Oscar 'Hedd Wyn' nôl yn 1993.

Unarddeg mlynedd yn gynharach mi ddaru'r actor Colin Welland ddatgan, tra'n casglu un o bedair Oscar ar gyfer y ffilm 'Chariots of Fire', "The British are coming".

Mae'n hawdd iawn meddwi ym mwrlwm cyhoeddusrwydd a chreu darlun gwbl ffals - gyda'r gwirionedd yn cael ei anwybyddu.

Image caption Berwyn Rowlands: "Un o'r pethau gwaethaf ddigwyddodd i ffilm yng Nghymru oedd enwebiad Oscar 'Hedd Wyn' nôl yn 1993"

Ar ôl derbyn enwebiad Oscar, cofiwch ddaru ni ddim ennill, roedd yna ryw deimlad fod unrhyw beth yn bosibl. Ond 'da ni 'di bod yma o'r blaen.

Nôl yn 1986 roedd dwy ffilm yn y Gymraeg i'w gweld mewn sinemâu, 'Milwr Bychan' (Karl Francis) a 'Rhosyn a Rhith' (Stephen Bayly). Roedd llwyddiant y ddwy ffilm yma yn rhannol gyfrifol am i mi sefydlu Gŵyl Ffilm Aberystwyth yn 1989.

Oes aur ar y gorwel?

Wedi sawl false start ydan ni ar fin gweld oes aur newydd ar gyfer ffilm yng Nghymru?

Cyn ateb y cwestiwn mae'n bwysig diffinio beth yn union ma' rywun yn ei olygu wrth sôn am ffilm.

Ydan ni'n sôn am leoliadau ffilmio, cwmnïau cynhyrchu cynhenid llwyddiannus, gwaith i griwiau ffilmio, storïau am Gymru a'r Cymry ar y sgrin?

Mae 'na rai yn gweld ffilm fel rhywbeth diwylliannol gydag eraill yn mynnu ma' busnes cyfalafol yw ffilm. Realiti'r sefyllfa yw bod ffilm yn hyn i gyd a llawer iawn mwy.

Gall ffilm ddiffinio gwlad a'i phobol, drwy rannu gyda'r byd ein storïau. Mae llwyddiant 'Pride' (Matthew Warchus) yn dilyn perthynas grŵp o lesbiaid a dynion hoyw o Lundain a thrigolion Onllwyn yn ystod streic y glowyr ym 1984 yn dystiolaeth glir o sut gall hyn ddigwydd yn llwyddiannus.

Image caption Mae angen rhagor o straeon Cymreig fel 'Pride' yn y sinema, medd Berwyn Rowlands

Cymru ar y sgrin fawr

Ar hyn o bryd mae'r ffilm ddogfen 'Dark Horse: The Incredible Story of Star Alliance' (Louise Osmond) i'w gweld mewn sinemâu ledled Prydain.

Yn anffodus, dim ond £88,348 mae'r ffilm am drigolion Cefn Fforest sy'n magu ceffyl rasio wedi ei ddenu mewn gwerthiant tocynnau hyd yma ar ôl pythefnos, i gymharu â £14.4 miliwn 'Avengers: Age of Ultron' ar ôl tri diwrnod.

Serch hyn mae'n anodd gwadu fod 'Dark Horse' dal yn llwyddiant am i'r stori gyrraedd y sgrin fawr yn y lle cyntaf?

Mi oedd disgwyl mawr y byddai stori Gareth Thomas i'w gweld cyn hir yn ychwanegu at hanes Cymru ar y sgrin fawr. Ond os yw'r storïau diweddar yn gywir, acen Wyddelig fydd gan Mickey Rourke tra'n chwarae cymeriad wedi ei seilio ar fywyd Gareth Thomas! False start arall?

Lleoliadau

Ar wahân i'r ffaith na chafodd 007 groeso ym Mae Caerdydd, mae gan Gymru enw da am edrych ar ôl criwiau ffilm. Cyn dyfodiad Comisiwn Sgrin Cymru, y gwasanaeth lleoliadau cenedlaethol, mi oedd criwiau ffilm yn hen gyfarwydd â thirwedd Cymru.

Yn 1958 roedd yr Wyddfa yn lleoliad i'r ffilm 'The Inn of the Six Happiness' (Mark Robson) a deg mlynedd yn ddiweddarach roedd criw 'Carry On Up the Khyber' (Gerald Thomas) yn defnyddio'r un lleoliad gyda'r cyfarwyddwr yn disgrifio'r lleoliad fel "more Khyber than the Khyber Pass".

Image caption 'Up the Khyber' ym mynyddoedd Eryri

Bellach mae 'na fwy o gystadleuaeth gyda phob gwlad yn ceisio denu'r punnoedd ddaw yn sgil ffilmio. Mae Cymru yn parhau i ddenu criwiau heddiw gan fod y gwasanaeth lleoliadau sydd gyda ni'n gallu ymateb yn gyflym i ymholiadau.

Mae'r broses o ddatblygu sgriptiau, ariannu, ffilmio a dosbarthu'r ffilm yn un llafurus.

Yn aml iawn mae sawl cwmni/sefydliad yn buddsoddi mewn ffilm, gyda phob uwch-gynhyrchydd yn mynnu'r hawl i rannu barn, sydd weithiau yn golygu fod y cyfarwyddwr yn gorfod cyfaddawdu. Fi yw'r person cyntaf i longyfarch unrhyw un sydd yn cwblhau'r broses!

Yn anffodus does dim traddodiad o gynhyrchu ffilmiau cynhenid yn rheolaidd ar gyfer y sinema gyda ni, fel sydd yn Ffrainc neu ranbarthau'r Almaen. Er bod y BBC, S4C, Ffilm Cymru, Sgrin, Ffilm Cymru Wales ac yn fwy diweddar Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn ffilmiau, nid yw'r llwyddiannau wedi dilyn.

Ar hyn o bryd 'da ni'n lwcus os gawn ni ddwy ffilm y flwyddyn yn adrodd storïau o Gymru ar y sgrin fawr. Ac yn aml iawn nid cwmnïau o Gymru sydd yn gyfrifol am y ffilmiau chwaith!

Image caption 'Dark Horse' - ffilm sydd wedi ei lleoli yng Nghefn Coed yng nghymoedd y de

"Angen buddsoddiad"

Gyda llaw, dwi ddim wedi anwybyddu yn fwriadol y talent o Gymru sydd yn gweithio dramor. Mae gwaith creadigol y Cymry sydd yn gweithio o fewn y diwydiant ffilm ryngwladol i'w gweld yn wythnosol!

Canolbwyntio dwi wedi ei wneud ar y gwendid - y diffyg storïau o Gymru sydd yn ymddangos ar y sgrin fawr.

Er mwyn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, fel yr Alban, Awstralia a'r Iwerddon, mi fydd angen cynyddu yn sylweddol faint 'da ni'n fodlon ei fuddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm gynhenid.

Yn anffodus mewn cyfnod ble mae arian cyhoeddus yn parhau i fod yn brin, does ddim syniad fod hyn am ddigwydd yn fuan.

Image caption Mae Gwobrau Ffilm Iris wedi helpu i godi proffil Cymru yn y byd ffilmiau rhyngwladol