Y ddadl deledu ola' yng Nghymru cyn yr etholiad

huw Edwards
Image caption Y ddadl deledu ola rhwng arweinwyr y chwe prif blaid yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol

Mae arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru wedi herio ei gilydd yn y ddadl deledu olaf cyn i bobl fwrw eu pleidlais ddydd Iau.

Bu gwrthdaro rhwng Llafur a Phlaid Cymru dros y posibilrwydd o weld y ddwy blaid yn cyd-weithio os bydd canlyniadau'r etholiad yn golygu senedd grog.

Roedd y rhaglen arbennig o The Wales Report Election Leaders' Debate yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC One Wales o Theatr y Sherman, Caerdydd.

Y Ceidwadwr Stephen Crabb, Owen Smith o Lafur, Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Leanne Wood o Blaid Cymru, Nathan Gill o UKIP a Pippa Bartolotti o'r Blaid Werdd fu'n wynebu cwestiynau am brif bynciau'r ymgyrch.

Image caption Y newyddiadurwr Huw Edwards yn cyflwyno'r ddadl

Yn ystod y ddadl, fe heriodd Owen Smith Leanne Wood gan ofyn a fyddai hi'n "gadael llywodraeth Dorïaidd i mewn drwy'r drws cefn?".

Ond fe ymatebodd Ms Wood drwy ddweud fod cyfnod Llafur "o gymryd pobl yn ganiataol" ar ben.

Yn gynharach yn y dydd fe ddywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband ei fod yn diystyru bargen gyda Phlaid Cymru os na chaiff ei blaid fwyafrif ar ôl etholiad ddydd Iau.

Mae Ms Wood wedi dweud y gallai ei phlaid wneud llawer i roi Llafur mewn grym hyd yn oed os na fydd yr SNP yn cymryd rhan mewn clymblaid.

Wrth awgrymu ei fod yn cydnabod na fyddai'r blaid Lafur yn llwyddo i ennill mwyafrif, dywedodd Mr Smith: "Y cwestiwn i Leanne - mewn sefyllfa pan nad Llafur yw'r blaid fwyaf, a gyda Llafur yn ffurfio llywodraeth, efallai llywodraeth leiafrifol - fyddai Leanne yn pleidleisio yn erbyn ein rhaglen i gael gwared ar dreth ystafelloedd gwely, i gynyddu isafswm cyflog - fydde chi, Leanne, yn gadael llywodraeth Dorïaidd i mewn drwy'r drws cefn?"

Cymryd yn ganiataol

Mewn ymateb dywedodd Leanne Wood: "Rwy'n caru'r ffordd yr ydych yn cymryd yn ganiataol y ffordd y bydd pleidleisiau Plaid Cymru yn mynd, yn union yr un ffordd yr ydych chi wedi cymryd pobl Cymru yn ganiataol am nifer fawr o ddegawdau. Rwy'n credu fod yr amser ar ben o gymryd pobl Cymru yn ganiataol, Owen Smith."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb y byddai pleidlais i'r Ceidwadwyr yn bleidlais amgen o gymharu â'r "ffraeo clymbleidiol anhrefnus".

Ychwanegodd fod penderfyniadau anodd wedi eu gwneud i fynd i'r afael â dyled y wlad a bod hynny wedi arwain at dwf economaidd.

"Dim ond y Ceidwadwyr all fynd i'r afael a phenderfyniadau anodd y dyfodol ac fe fyddai'n bechod gwyro oddi ar y llwybr gwleidyddol presennol wrth i economi Cymru dyfu."

Mynnodd Kirsty Williams i'r Democratiaid Rhyddfrydol y byddai'i phlaid hi yn bartner mwy synhwyrol mewn unrhyw glymblaid.

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â safiad y blaid ar lwfansau tra mewn llywodraeth glymblaid dywedodd "fod yna benderfyniadau anodd wedi bod ynglŷn â thaliadau lles."

Ond ychwanegodd: "Ni fyddai'r Dem Rhydd yn torri lwfansau pobl anabl na gofalwyr, ac ni fyddai'r blaid yn cefnogi cynllun i dorri'r gyllideb les fel y Ceidwadwyr."

Ond cynnig atebion amgen wnaeth y Gwyrddion ac UKIP - y naill am roi llymder i'r neilltu, y llall yn mynnu fod angen ail-feddwl y berthynas a Brwsel.

Fe wnaet Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymr hefyd ymosod ar record Llafur ar y gwasanaeth iechyd yng Nghrymu. Dywedodd fod Llafur wedi gwneud "llanast llwyr."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud smonach o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ac mae UKIP yn mynd i fuddsoddi'n syth yn y gwasanaeth. "

Dywedodd Pippa Bartolotti fod menywod wedi ysgwyddo mwy o faich na dynion yn wyneb mesurau llymdra.

"Byddai'r Gwyrddion yn gorfodi cwmniau i gyhoeddi tâl eu gweithwyr, i geisio sicrhau y byddai'r bwlch tâl rhwng dynion a merched yn diflannu," meddai.