Y Seintiau Newydd 2-0 Y Drenewydd

Fe wnaeth dwy gol gan Matty Williams sicrhau'r trebl i'r Seintiau Newydd wrth guro deg dyn y Drenewydd 2-0 yn ffeinal Cwpan Cymru.

Fe lwyddodd Y Drenewydd i gadw pencampwyr yr Uwchgynghrair yn dawel yn yr hanner cyntaf ym Mharc Latham.

Ond wedi'r egwyl sgoriodd Williams ei gol gyntaf i'r tîm sydd hefyd wedi cipio Cwpan y Gynghrair eleni.

Roedd y fuddugoliaeth yn sicr ar ôl i Shane Sutton gael ei anfon o'r cau am drosedd yn y blwch cosbi.

Llwyddodd Williams gyda'r gic o'r smotyn.

Pe bai'r Drenewydd wedi ennill yna byddant yn chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesa, ond nawr mae'r anrhydedd yna yn perthyn i Airbus, sy'n ymuno a'r Bala fel cynrychiolwyr Cymru.

Bydd y cynrychiolwyr olaf yn cael eu dewis ar ôl gemau ailgyfle. Mae Port Talbot yn wynebu'r Drenewydd, ac Aberystwyth yn wynebu Cei Connah yn y rownd gynderfynol ar Fai 9-10.