Oergelloedd o Gymru i frwydro Ebola

A solar-powered fridge Image copyright Dulas
Image caption Mae'r cwmni wedi bod yn cynhyrchu oergelloedd am 30 mlynedd

Mae oergelloedd o Gymru sy'n cael eu pweru gan ynni solar yn cael eu hanfon i Affrica yn y frwydr yn erbyn Ebola.

Bydd yr oergelloedd, sy'n cael eu cynhyrchu gan gwmni Dulas ym Machynlleth, yn cael eu defnyddio i storio brechlyn.

Byddant yn cael eu hanfon i Sierra Leone, Liberia a Guinea, gwledydd lle mae yna broblemau gyda chyflenwadau trydan.

Dywedodd Guy Watson, o gwmni Dulas: "Rydym yn falch bod technoleg gafodd ei greu a'i ddatblygu yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cymunedau o'r fath sy'n wynebu argyfwng dwys."