Casnewydd 0-1 Rhydychen

Image copyright Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes Jimmy Dack yn ei gem olaf fel rheolwr Casnewydd cyn i Terry Butcher gmryd yr awennau - a hynny o 1-0 i Rydychen.

Kemar Roofe wnaeth andwyo diwrnod rheolwr dros dro Casnewydd drwy sgorio ei chweched gem mewn saith gem.

Ychydig cyn yr egwyl cafodd Mike Flynn ei anfon o'r cae, a hynny ar ei 100fed ymddangosiad i'r tim.

Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn gorffen y tymor yn safle rhif naw yn yr Ail Adran.