Criced: Morgannwg

Oherwydd cyflwr y maes dim ond 15.5 pelawd gafodd eu chwarae ar ddiwrnod cyntaf yn y gêm rhwng Morgannwg a sir Derby yn Stadiwm Swalec.

Ar ddiwedd y chwarae roedd Sir Derby wedi sgorio 47 am 2.

Fe wnaeth yr ymwelwyr golli wicedi Chesney Hughes a'r capten Wayne Madsen cyn i law roi diwedd ar y chwarae.