Teyrngedau i chwaraewr rygbi wedi 'ataliad y galon'

Danny Jones Image copyright SWpix.com

Bu farw'r chwaraewr rygbi, Danny Jones, wedi iddo ddioddef ataliad y galon posib yn ystod gêm ddydd Sul.

Roedd y chwaraewr 29 oed, fu'n chwarae rygbi 13 rhyngwladol i Gymru, yn chwarae i Keighley Cougars yn ystod y gêm yn erbyn Lodon Skolars.

Derbyniodd driniaeth wrth ochr y cae cyn cael ei gludo i'r Royal Free Hospital yn Llundain.

Cafodd Jones, o Halifax, ei anafu ym mhedwerydd munud y gêm yn Stadiwm New River, a derbyniodd driniaeth gan feddyg a pharafeddygon.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu bod wedi eu galw i "glaf gydag ataliad y galon" am 15:10 a bod "ymdrech sylweddol wedi'i wneud i'w adfywio".

'Poblogaidd a thalentog'

Daeth y gêm i ben wedi 16 munud, a hynny gyda Keighley ar y blaen 12-6.

Dywedodd prif swyddog gweithredol Rygbi 13, Ralph Rimmer: "Mae hi'n dorcalonnus pan mae person mor ifanc yn marw dan y fath amgylchiadau.

"Roedd Danny yn chwaraewr poblogaidd a thalentog, ac roedd wedi chwarae ar y lefel uchaf i Gymru, ac wedi chwarae i Keighley Cougars a Halifax am dros 12 tymor.

Ychwanegodd: "Bydd y gymuned rygbi 13 yn teimlo'r golled yn fawr, a hoffwn gynnig ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Danny.

"Rydym yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd teulu Danny Jones, gweithwyr a chwaraewyr Keighley Cougars."

Cynrychioli Cymru

Roedd Danny Jones wedi ennill 12 cap dros Gymru, wedi iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2010 yn erbyn Yr Eidal.

Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yng Nghwpan y Byd Rygbi 13 yn 2013 yng Nghastell-nedd yn erbyn Ynysoedd Cook.

Roedd wedi sgorio dros 1000 o bwyntiau mewn 150 o gemau i Keighley.