Cyhuddo UKIP o 'godi bwganod' dros fewnfudo

Nathan Gill Image copyright Getty Images
Image caption Mae Nathan Gill wedi dweud ei fod yn bwysig delio gyda phryderon etholwyr

Mae UKIP wedi eu cyhuddo o "godi bwganod" dros fewnfudo gan eu gwrthwynebwyr yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd cynrychiolwyr o brif bleidiau Cymru yn trafod y pwnc mewn dadl ar BBC Radio Wales fore Llun.

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill na ddylai mewnfudo gael ei roi o'r neilltu a chyhuddodd ei wrthwynebwyr o "fychanu" pryderon etholwyr.

Ond dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru bod UKIP yn "creu casineb".

Camgymeriad

Fe wnaeth llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith gyfaddef bod ei blaid wedi gwneud camgymeriad tra'r oedden nhw mewn grym pan ymunodd gwledydd dwyrain Ewrop gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae UKIP yn "gwneud yr hyn sy'n glasurol i bleidiau asgell dde", meddai.

Image caption Fe wnaeth Owen Smith gyfaddef bod Llafur wedi gwneud camgymeriad

Dywedodd Alun Cairns o'r Ceidwadwyr ei fod yn "hyderus ac optimistaidd" y byddai David Cameron yn gallu newid rheolau'r UE sy'n caniatáu pobl i symud yn rhydd dros ffiniau.

Mae'r Torïaid wedi gado ail-drafod termau aelodaeth y DU yn yr UE, cyn cynnal refferendwm.

Canllaw maniffestos: Mewnfudo

Pwnc etholiadol allweddol ar gyfer nifer o bleidleiswyr, mae hyn yn cynnwys mudo UE a byd-eang, rheoli ffiniau, gwaith a budd-daliadau.

'Dweud y gwir'

Fe wnaeth y pleidiau hefyd drafod yr economi a gwariant cyhoeddus.

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts bod ei blaid "wedi angori" yn y tir canol, a gofynnodd i Mr Smith "ddweud y gwir wrth bobl Cymru am unwaith" am y toriadau mae Llafur yn bwriadu eu gwneud.

Gwrthododd Mr Smith yr honiad - gan ddweud y byddai Cymru'n derbyn £1bn yn ychwanegol dros y senedd nesaf dan lywodraeth Lafur.

Fe wnaeth arweinydd y Blaid Werdd Pippa Bartolotti ymosod ar gyfalafiaeth gan ddweud: "Nid yw'n bosib cael twf parhaus mewn byd cyfyngedig."