Ympryd mudiad iaith 'i wella'r Bil Cynllunio'

Jamie Bevan
Image caption Mae Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ymysg y rhai sy'n ymprydio am 24 awr

Brynhawn Llun mae rhai o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn cychwyn ympryd 24 awr er mwyn tynnu sylw at alwad i wella'r Bil Cynllunio cyn pleidlais yn y Cynulliad.

Ymysg yr ymprydwyr mae'r Prifardd Mererid Hopwood, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan, yr ymgyrchydd Toni Schiavone, y gweinidog Cen Llwyd a'r cerddor a'r cyfarwyddwr Cleif Harpwood.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn gwelliant i'r bil fydd yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol a bod cynghorwyr yn caniatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ieithyddol.

Ond mae'r ymgyrchwyr wedi dweud bod angen asesiadau o effaith ieithyddol datblygiadau unigol er mwyn i system o'r fath fod yn llwyddiannus.

Yn ogystal mae angen newid sut mae targedau tai yn cael eu gosod, medden nhw, fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol.

'Sefyllfa ddifrifol'

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Gan fod y Gweinidog wedi gwrthod nifer fawr o'r argymhellion trawsbleidiol i wella'r bil does dim dewis gennyn ni ond ymprydio er mwyn argyhoeddi'r llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa ac effaith eu deddfwriaeth ar y Gymraeg fel iaith gymunedol naturiol.

"Mae'r sefyllfa'n un ddifrifol o'n safbwynt ni sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg ... ond hefyd o edrych yn wrthrychol ar sefyllfa democratiaeth, anghydraddoldeb a'r amgylchedd yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gwneud y safiad hwn er lles y cenedlaethau i ddod ac er mwyn lleisio barn yn erbyn methiant ein gwleidyddion i herio peryglon y farchnad rydd."

Yn Hydref 2014 dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: "Rwy'n hynod falch o gyflwyno'r bil blaenllaw hwn, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cryfhau'r broses gynllunio ar ei hyd.

'Gwelliannau'

"Bydd hynny'n arwain at system effeithiol sydd orau i wasanaethu pobl Cymru ac sy'n addas ar gyfer y ganrif hon.

"Ymhlith y gwelliannau y gall cymunedau edrych ymlaen at eu gweld, bydd eglurder o ran sut a phryd y gallan nhw chwarae rhan yn y prosesau cynllunio ac ymgynghori, awdurdodau lleol yn cael eu mentora'n well a gwell proses apeliadau i sicrhau mwy o degwch, tryloywder a chyflymder.

"Ar ben hynny, mae'r bil yn cynnig mai Gweinidogion Cymru ddylai gymryd cyfrifoldeb am benderfynu ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood wedi dweud: "Mae'r Mesur Cynllunio yn ateb gofynion datblygwyr mawrion ac nid anghenion y Gymraeg mewn cymunedau lleol.

'Rhwydd hynt'

"Rwyf yn gwrthwynebu am fod y bleidlais ar 5 Mai yn rhoi rhwydd hynt i gyflymu a chanoli'r broses.

"Bydd grym yn cael ei roi yn nwylo llai o bobl drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o'u haelodau yn rhai anetholedig.

"Mae dal angen i'r mesur gynnwys gorfodaeth i gynnal asesiadau iaith ar ddatblygiadau sylweddol a bod angen i awdurdodau lleol osod targedau tai yn unol ag anghenion lleol yn hytrach na gorfod derbyn amcan ffigyrau canolog."

Bydd y Bil Cynllunio yn destun pleidlais yn y Cynulliad brynhawn dydd Mawrth.

Straeon perthnasol