Teyrnged i gricedwr 'dawnus dros ben' Morgannwg

Image caption Roedd Jamie Bishop yn 44 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn gricedwr Morgannwg fu farw yn 44 oed.

Cafwyd hyd i gorff Jamie Bishop yn ei fflat yn Abertawe ddydd Gwener.

Dyw'r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Dywedodd prif weithredwr clwb criced Morgannwg Hugh Morris ei fod yn "gricedwr dawnus dros ben" a bod ei record wrth chwarae i Bontarddulais yn wych.

Mae Steve James, Edward Bevan, Sean Holley, John Devereux a Rick O'Shea wedi rhoi eu teyrngedau ar wefannau cymdeithasol.