Enwi'r Dywysoges newydd

Y Dywysoges Charlotte Elizabeth Diana o Gaergrawnt Image copyright Siarlot
Image caption Y Dywysoges Charlotte Elizabeth Diana o Gaergrawnt

Cyhoeddodd Palas Kensington mai Charlotte Elizabeth Diana yw enw'r babi brenhinol newydd.

Fe fydd yn cael ei hadnabod fel Y Dywysoges Charlotte o Gaergrawnt.

Cafodd ei geni ddydd Sadwrn, yn pwyso wyth pwys tair owns.

Dyma ail blentyn y cwpl brenhinol.

Charlotte

Mae'r enw Charlotte, y ffurf fenywaidd o Charles, o dras frenhinol, wrth i'r enw ddod yn boblogaidd yn y 18fed ganrif yn ystod teyrnasiad Siôr III.

Hefyd fe brynodd y Brenin Siôr Dŷ Buckingham i'w wraig, Y Frenhines Charlotte, yn 1761, i'w ddefnyddio fel cartref teuluol gerllaw Palas St James - yn ddiweddarach fe ddaeth y tŷ yn fwy adnabyddus fel Palas Buckingham.

Mae Charles hefyd yn enw ar ddau gyn Frenin Lloegr, yn ogystal â Thywysog Cymru, taid y dywysoges fach.

Mae gan Charlotte gysylltiad ar ochr y dduges hefyd, gan mai dyma enw canol ei chwaer, Pippa Middleton.

Fe wnaeth y Dug a'r Dduges ymddangos tu allan i'r ysbyty gyda'r babi yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.

Yna fe adawodd y tri am Balas Kensington.

Fe fydd y teulu yn teithio maes o law i Blas Anmer yn Norfolk.

Image caption Enw'r Dywysoges newydd ydi Charlotte (enw benywaidd o Charles, fel ei thaid) Elizabeth (fel ei hen nain, Y Frenhines Elizabeth II) Diana (ar ôl ei nain, Diana Tywysoges Cymru fu farw mewn damwain car yn 1997)