Michael Hogan yn hapus i fod nôl

criced Image copyright Huw Evans picture agency

Mae bowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan yn hapus wedi iddo gymryd ei wiced gyntaf o'r flwyddyn, wedi iddo ddychwelyd o anaf.

Fe gymerodd Hogan 2 am 43 ar ail ddiwrnod y chwarae wrth i Forgannwg groesawu Sir Derby.

Dywedodd Hogan, sydd wedi dychwelyd ar ôl gwella o broblem i linyn y gâr: "Roeddwn ychydig yn siomedig gyda'r ffordd roeddwn yn bowlio, ond yn hapus i orffen y dydd wedi cael cwpl o wicedi,"

Fe lwyddodd Morgannwg i orffen y dydd ar 84 am 2 wedi i'r ymwelwyr gyrraedd 205 yn eu batiad cyntaf, a daeth y chwarae i ben yn gynnar oherwydd golau gwael.

Mae'r rhagolygon tywydd yn awgrymu na fydd llawer mwy o chwarae yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd chwaith.