Tân mewn canolfan wastraff ac ailgylchu yng Nghasnewydd

tân
Image caption Mae'r tân yn y ganolfan ailgylchu bellach dan reolaeth

Mae criwiau tân yn parhau i fod ar safle canolfan ailgylchu yng Nghasnewydd lle roedd 50 tunnell o wastraff ar dân dros nos.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r safle ar Docks Way am tua 17:00 nos Lun.

Roedd rhaid i'r criwiau symud y gwastraff o'r adeilad lle roedd yn cael ei storio.

Mae un criw a pheiriant dwr yn parhau ar y safle ddydd Mawrth.