Gwarchae Cynwyd: Carcharu dyn am 14 mis

Digwyddiad Cynwyd Image copyright Denbighshire Free Press

Mae dyn 22 oed wedi ei garcharu am 14 mis yn dilyn gwarchae ym mhentref Cynwyd ger Corwen ym mis Mawrth eleni.

Fe blediodd Ciaran Morris yn euog o anelu gwn awyr at heddweision a bygwth ei ddefnyddio.

Roedd wedi cloi ei fam a'i frawd allan o'u cartref yn dilyn ffrae ac fe wrthododd agor y drws iddyn nhw.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar 25 Mawrth ac fe fu gwarchae am gyfnod o 10 awr yn y pentref.

Llwyddodd yr heddlu i sicrhau mynediad i'r tŷ am 08:00 y bore canlynol ar ôl gweld fod Morris yn rhoi rhaff am ei wddf.

Straeon perthnasol