Etholiad 2015 ar wefan Cymru Fyw

Etholiad 2015
Image caption Dilynwch holl ddatblygiadau Etholiad 2015 ar wefan Cymru Fyw

Wedi i'r bleidlais gael ei chynnal ddydd Iau bydd gwasanaeth Cymru Fyw yn dod â'r diweddara' am Etholiad Cyffredinol 2015 i chi, a hynny o ongl gwbl Gymreig.

Bydd 'na lif byw arbennig yn cychwyn unwaith bydd y blychau pleidleisio wedi cau am 22:00 nos Iau, gyda'r holl ganlyniadau o Gymru fel maen nhw'n cyrraedd, yn ogystal â'r sïon, newyddion a'r dadansoddi.

Byddwn ni hefyd yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd ar y gwefannau cymdeithasol, yn crynhoi rhywfaint o'r drafodaeth ar safleoedd fel Twitter a Facebook, a gallwch weld y diweddaraf drwy ddilyn cyfrif Twitter @BBCCymruFyw.

Yn ogystal, bydd 'na we-lif o raglenni S4C a Radio Cymru fel bod modd i chi wylio a gwrando ar y cyfan yn fyw drwy ein gwefan ni.

Os hoffech weld y diweddaraf ar eich dyfais symudol, gallwch lawrlwytho Ap Cymru Fyw i Android neu iPhone, neu chwiliwch am 'Cymru' yn y BBC News App.

Gallwch ddilyn holl ddatblygiadau'r etholiad mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru o 22:00 ymlaen. Bydd rhifyn estynedig o'r Post Cyntaf yn dechrau'n gynt na'r arfer bore Gwener, am 05:00.

Bydd rhaglen deledu Etholiad 2015 yn cychwyn ar S4C am 22:00.

Y cyflwynydd etholiadol profiadol Dewi Llwyd fydd yn arwain yr arlwy teledu a radio, yng nghwmni Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick a'r newyddiadurwr Catrin Haf Jones.

Fe fydd 'na ohebwyr ym mhob rhan o Gymru'n dod â'r diweddara' o'r cyfri' dros nos nos Iau.

Byddwn ni'n parhau i ddilyn y datblygiadau a'r trafod yn y dyddiau wedi'r etholiad, wrth i'r darlun gwleidyddol ddod yn gliriach.

Hefyd ar y BBC