Deiseb yn galw am ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg

Cerdded yn y mynyddoedd
Image caption Taith gerdded cynhadledd Mynyddoedd Pawb o Gwm Cynllwyd i Ddinas Mawddwy

Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno brynhawn Mercher, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb, sydd wedi'i threfnu gan fudiad Mynyddoedd Pawb a bydd cynrychiolaeth o'r mudiad, Ceri Cunnington, Twm Elias a Dyfrig Gwent, yn cyflwyno'r ddeiseb.

Mae Mynyddoedd Pawb yn credu dylai enwau lleoedd, eu hanes a'u treftadaeth, fod yn rhan o gyrsiau astudiaethau'r amgylchedd mewn addysg bellach ac addysg uwch, ynghyd â bod yn rhan o gyrsiau gweithgareddau awyr agored.

Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chanolfannau awyr agored er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o enwau lleoedd traddodiadol brodorol, ac er mwyn eu cefnogi i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Mynyddoedd Pawb hefyd am weld enwau lleoedd traddodiadol a hir sefydlog yn dod dan reolaeth y drefn gynllunio.

Yn ogystal, mae'r ddeiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru geisio darbwyllo awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, ynghyd â chyrff eraill, i weithredu er mwyn diogelu enwau lleoedd Cymraeg.

Enwau dan fygythiad?

Cafodd cynhadledd fynydda ei chynnal yng Nglan-llyn ger y Bala ym mis Chwefror i drafod sut i ddiogelu enwau Cymraeg ar fynyddoedd a dyffrynnoedd.

Cafodd y gynhadledd ei threfnu gan grŵp Mynyddoedd Pawb, gafodd ei sefydlu er cof am Llew ap Gwent, arweinydd mynydd oedd eisiau hybu'r Gymraeg a'i hanes yn y diwydiant awyr agored.

Ei ferch, Mari Gwent, gafodd y syniad i sefydlu'r grŵp gyda nifer o bobl o sefydliadau eraill oedd â'r un dyhead i hybu'r Gymraeg yn y diwydiant mynydda ac awyr agored.

Mae aelodau'r mudiad yn poeni fod enwau ar dirwedd Cymru yn "diflannu wrth i'r to hŷn ddiflannu".

Cynhaliodd y grŵp ei gynhadledd gyntaf ym mis Tachwedd 2013 a chytuno "fod angen i enwau, hanes a chwedloniaeth ein tirwedd fod ar gael yn hawdd i bawb, yn bobl leol a thwristiaid, er budd yr economi leol, ac yn fwy na dim er mwyn dyfodol yr iaith," meddai Mari.

Straeon perthnasol