Bil Cynllunio: Iaith yn 'ystyriaeth statudol'

Adeiladu tai
Image caption Mae'r llywodraeth wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur yw symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn gwelliant i'r Bil Cynllunio sy'n golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol.

Felly gall cynghorwyr ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ieithyddol.

Mi wnaeth Aelodau Cynulliad gymeradwyo'r gwelliant i Adran 70 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 heb unrhyw wrthwynebiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cydweithio gyda phob plaid er mwyn sicrhau bod y gwelliannau i'r mesur sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg yn adlewyrchu pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'u bod er budd cymunedau ar draws Cymru.

"Mae'r gwelliant heddiw, gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, yn cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn y Mesur Cynllunio."

Dim cefnogaeth

Ond yn ystod y drafodaeth doedd dim cefnogaeth i welliant fyddai wedi golygu bod dyletswydd statudol i gynnal asesiadau o effaith ieithyddol datblygiadau.

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, y byddai'r canllawiau ynglŷn â'r mater hwn - mae pecyn ar gyfer asesiadau effaith ieithyddol datblygiadau eisoes yn rhan o ganllawiau TAN 20 - yn cael eu hadolygu.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod yn gobeithio trafod hyn gyda'r llywodraeth cyn bo hir.

Yn ôl y mudiad iaith, roedd anghysondeb rhwng gallu cynghorau i wrthod cais cynllunio oherwydd pryder am yr effaith ar y Gymraeg a dim dyletswydd arnyn nhw i gynnal asesiad o'r effaith ieithyddol.

Beirniadaeth

Pan gafodd y mesur drafft ei gyhoeddi fis Rhagfyr roedd ymgyrchwyr yn feirniadol am nad oedd yn cynnwys canllawiau cadarn am yr iaith.

Brynhawn Llun cychwynnodd rhai o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith ympryd 24 awr er mwyn tynnu sylw at alwad i wella'r Bil Cynllunio cyn y bleidlais yn y Cynulliad.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi dweud bod angen asesiadau effaith ieithyddol datblygiadau unigol er mwyn i'r system gynllunio lwyddo i ddiogelu'r Gymraeg.

Yn ogystal roedd yr ymgyrchwyr yn galw am newid sut oedd targedau tai yn cael eu gosod fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol.

Roedd y llywodraeth wedi dweud mai bwriad cyflwyno'r mesur fyddai symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio.

Straeon perthnasol