Criced: Glaw yn rhwystro chwarae

Morgannwg v Sir Derby Image copyright Getty Images

Mae'r glaw wedi rhwystro'r chwarae ar drydydd diwrnod gêm Morgannwg yn erbyn Sir Derby ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Dim ond 20 munud o griced oedd trwy'r dydd wrth i Forgannwg, oedd yn ailgychwyn y gêm ar 84-2, fynd i drafferthion yn erbyn bowlwyr Sir Derby.

Mi gollodd Morgannwg ddwy wiced, Will Bragg am 14 a Colin Ingram am 12, gan sgorio cyfanswm o 103-4 i'r tîm cartref.

Er eu bod ar ei hôl hi o 104 o rediadau, penderfynodd Morgannwg gau'r batiad er mwyn ceisio gwella cyfradd eu pelawdau.

Ond daeth y chwarae i ben yn gynnar oherwydd glaw.

Gan fod 100 o belawdau wedi eu bowlio yn y gêm a chyda ragolygon o fwy o law ar ddiwrnod olaf y chwarae, mae gêm gyfartal yn edrych yn debygol.