Etholiad 2015: Y frwydr yn Yr Alban

Baneri yr Alban a'r DU

Yn yr Alban mae cymaint â hanner y boblogaeth fydd yn gallu pleidleisio yn disgwyl gweld newid ar 7 Mai.

Mae hanner arall y boblogaeth fel petai nhw am geisio arafu'r llif o gefnogaeth mae arolygon barn yn proffwydo bydd yn cael ei roi i Blaid Genedlaethol yr Alban.

Yn anochel medd nifer fawr o Albanwyr, mae pleidlais yn erbyn annibyniaeth saith mis yn ôl yn mynd i gael effaith etholiadol eleni.

Yn sicr ddigon yn San Steffan y bydd y sioc i'w deimlo fwyaf, er mai dim ond un Ceidwadwr oedd yn Aelod Seneddol yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf.

Yn 2010 fe etholwyd 41 AS Llafur ac 11 AS i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban.

Tirlithriad gwleidyddol?

Yn ôl Casi Dylan, mae teimlad o frad bron gan y 45% o'r etholwyr oedd am weld annibyniaeth i'r wlad, ac mae 'na deimlad o ddicter tuag at Senedd San Steffan oherwydd y bleidlais ac oherwydd bod y pleidiau Prydeinig yn cael eu gweld yn mynd yn ôl ar eu gair, o ddatganoli rhagor o bwerau i Senedd yr Alban yn Holyrood.

Fe fydd hi'n bwrw ei phleidlais yn Glasgow nid Ceredigion eleni.

Gall Caradog Roberts, gwyddonydd sydd wedi ymddeol ac wedi byw yn yr Alban ers 63 o flynyddoedd, ddim cofio etholiad fel hwn.

Dywedodd ei fod yn cofio cyfnod pan roedd Harold Macmillan yn brif weinidog a phan roedd hanner Aelodau Seneddol Yr Alban yn Dorïaid.

Yn ôl Caradog, fe fyddan nhw'n ffodus o gadw eu hunig aelod gan ei fod yn credu'r arolygon barn sy' darogan tua 50 o etholaethau i'r SNP.

Os daw'r tswnami melyn yna - gan mai posteri melyn llachar yr SNP sydd fwyaf cyffredin ar hyd y strydoedd ac yn ffenestri tai pobl o ddigon - fe fydd yn dirlithriad gwleidyddol a chryn arwyddocad iddo.

Brwydr fawr

Ac eto mae Helen Ferry, sy'n briod ac Albanwr ac yn fam i ddau o blant yn ardal Cambuslang, yn Sir Lanark, yn teimlo y daw llwyddiant i'r SNP, ond mai'r flwyddyn nesaf y gallai newid eu brifo nhw.

Ym Mai 2016 fe fydd y Cenedlaetholwyr yn cyhoeddi maniffesto Albanaidd, ac fe fydd llawer mwy o gwestiynu pigog am eu llwyddiant yn rhedeg llywodraeth Yr Alban.

Ond eleni mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn yr Alban yn gwybod bod brwydr fawr o'u blaenau.

Yn etholaeth Dwyrain Renfrewshire mae 30% o etholwyr yn Dorïaid. Mae'r ymgeisydd, Dr David Montgomery, am ddisodli Jim Murphy, arweinydd Llafur yn yr Alban. A chadw blaidd yr SNP o'r drws.

Tydi o ddim am weld pleidleisio tactegol, gan gondemnio hynny fel arferiad negyddol.

Gwell, meddai, i bobl bleidleisio dros yr hyn maen nhw eisiau, ac i arddangos cefnogaeth i'r hyn mae o'n gredu fu llwyddiannau'r glymblaid yn Llundain.

Cynnydd mewn cefnogaeth i'r Gwyrddion

Nid dim ond yr SNP sydd wedi ennyn mwy o gefnogaeth.

Mae maniffesto Plaid Werdd yr Alban - sy'n gwbl annibynnol o Blaid Werdd Lloegr a Chymru, ac wedi dewis Albanwyr fel darpar ymgeiswyr - yn pwysleisio'r angen am newid anghyfiawnder cymdeithasol.

Maen nhw am gynyddu'r isafswm cyflog i £10 yr awr erbyn 2020, ac ailwladoli'r rhwydwaith trenau ar draws Prydain.

Mae bron i 9,000 o aelodau gan y Gwyrddion yn yr Alban, chwe gwaith yn fwy na chyn refferendwm y llynedd.

Mae'r Blaid Werdd gyda mwy o ymgeiswyr seneddol nag erioed o'r blaen - ond yn targedu etholiad yr Alban.

Mae ganddyn nhw ddau aelod yn Holyrood - ac yn gobeithio bydd 10-12 yr adeg yma'r flwyddyn nesaf.

A does dim sicrwydd o gwbl, os daw hwb wleidyddol enfawr i'r SNP yr wythnos hon, y bydd hynny, yn parhau yn y dyfodol.

Wedi'r cyfan, mae wythnos yn gyfnod hir mewn gwleidyddiaeth - yn enwedig adeg etholiadau.