Etholiad 2015: Iechyd yn cael sylw ar y diwrnod ola'

stethosgop
Image caption Er ei fod yn faes wedi'i ddatganoli, mae iechyd wedi bod yn bwnc trafod amlwg trwy gydol yr ymgyrch etholiadol

Ar ddiwrnod ola'r ymgyrchu yn etholiad cyffredinol 2015, gyda'r pleidiau i gyd yn ceisio elwa o'r oriau prin sy'n weddill, mae iechyd unwaith eto wedi bod yn bwnc dadlau.

Yn ystod ymweliad â Phowys ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron nad oedd yn difaru galw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn "llinell rhwng byw a marw".

Mae Llafur wedi disgrifio'r sylwadau fel rhai "gwarthus".

Y llynedd, fe wnaeth Mr Cameron ymosod ar y ffordd yr oedd Llafur yn delio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

'Ddim yn difaru'

Dywedodd y prif weinidog wrth y BBC ddydd Mercher: "Mae'n rhaid i'r blaid Lafur yng Nghymru roi'r gorau i dorri ar y gwasanaeth iechyd - maen nhw'n niweidio pobl."

Yn ôl Llafur, mae'n "warthus" fod Mr Cameron yn "atgyfnerthu ei ymosodiad" ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ddiwrnod cyn yr etholiad.

Wrth ymweld â Phowys fel rhan o daith etholiadol 36-awr funud ola', honnodd arweinydd y Ceidwadwyr fod Cymru mewn lle gwell nag yr oedd bum mlynedd yn ôl.

Wrth ymhelaethu ar ei farn am y gwasanaeth iechyd, dywedodd Mr Cameron: "Dydw i ddim yn difaru fy sylwadau o gwbl oherwydd, wrth gwrs, canlyniad toriadau Llafur i'r NHS yng Nghymru yw rhestrau aros hirach, amseroedd aros hirach, pobl yn marw ar restrau aros, dim cronfa cyffuriau canser yng Nghymru ble mae 'na un yn Lloegr."

Image caption Bu David Cameron hefyd yn trafod materion gwledig ar ymweliad â Phowys
Image caption Mae Carwyn Jones yn gobeithio y gall Llafur gipio Bro Morgannwg o afael y Ceidwadwyr

'Sarhau'

Mewn ymateb, fe wnaeth llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, ymosod ar Mr Cameron am "ddod i Gymru, gwneud yr un cyhuddiadau ffug a sarhau ein gwlad".

"Mae'r etholiad hwn yn ddewis syml rhwng llywodraeth Lafur fydd yn gweithio gyda'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i sefyll lan dros Gymru a llywodraeth Geidwadol arall fydd yn slaesio cyllideb Cymru ac yn cyflwyno dwywaith cymaint o doriadau," meddai.

"Neges o obaith sydd gan Lafur heddiw. Rydyn ni'n ymestyn allan i bobl ar draws Cymru, ar draws y gwahaniaethau gwleidyddol, i sicrhau llywodraeth Lafur fydd yn cyflawni dros Gymru."

Daw ei neges wrth i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones arwain ymdrechion munud ola' Llafur ym Mro Morgannwg, un o brif dargedau'r blaid - sedd sydd ar hyn o bryd yn nwylo'r Ceidwadwyr.

Canllaw maniffestos: Iechyd a gofal

Pwnc etholiadol allweddol ar gyfer nifer o bleidleiswyr, mae hyn yn cynnwys cyllid y gwasanaeth iechyd, mynediad i feddygon teulu a gofal cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn.

'Hen ffordd yn dod i ben'

Gyda'r arolygon barn ddim yn awgrymu bod unrhyw blaid yn debygol o ennill mwyafrif yn San Steffan, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi bod yn ymweld â Chaerfyrddin, sedd gipiodd ei phlaid am y tro cynta' 50 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Ms Wood wrth ymgyrchwyr fod "gafael haearnaidd yr hen bleidiau" wedi dod i ben.

Dywedodd: "Rydw i am weld y tîm cryfaf posib o ASau Plaid Cymru, er mwyn i mi gael y cytundeb cryfaf posib i Gymru."

"Mae'r hen ffordd yn dirwyn i ben, ffrindiau, gadewch i ni wneud yn siŵr bod Cymru'n rhan o'r newid sydd ar ei ffordd."

Image caption Wrth ymgyrchu yng Nghaerfyrddin, Leanne Wood yn dweud y gall ei phlaid sicrhau 'llais cryf' i Gymru
Image caption Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams fod angen i bleidleiswyr benderfynu pwy maen nhw eisiau i ddylanwadu ar lywodraeth

'Sicrhau sefydlogrwydd'

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams wedi bod yn teithio ar draws canolbarth Cymru'n ceisio annog cefnogaeth i'w phlaid.

Galwodd am bleidlais dros "undod a sefydlogrwydd", wrth ystyried dylanwad y Democratiaid Rhyddfrydol mewn senedd grog.

"Wrth siarad â phobl, mae hi'n amlwg eu bod yn poeni am ddylanwad yr SNP dros y Blaid Lafur - bydd hynny'n arwain at fwy o fenthyg arian a fwy o ddyled," meddai.

"Mae pobl eraill yn poeni am ddylanwad UKIP dros y Ceidwadwyr, ac y byddai'r dylanwad hwnnw yn arwain at dorri gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein neges i'r bobl hynny yn gwbl glir: yr un blaid fydd yn sicrhau sefydlogrwydd yw'r Democratiaid Rhyddfrydol."

Image caption Mae Nathan Gill yn hyderus fod pobl yn gwrando ar neges UKIP

'Cefnogi'n breifat'

Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, fod "neges obeithiol" ei blaid yn "taro deuddeg".

Ond honnodd llefarydd ar ran y blaid: "Ar draws Cymru mae pobl yn dweud wrthon ni'n breifat eu bod yn cefnogi UKIP, ond yn teimlo na fedran nhw fod yn agored am hyn oherwydd pryder am golli eu swydd os ydyn nhw'n gweithio yn y sector cyhoeddus, neu golli cytundebau llywodraeth os ydyn nhw'n berchen ar eu busnesau eu hunain.

"Ond y pwynt yw hyn: yn y blwch pleidleisio gall bobl deimlo'n ddiogel i bleidleisio gyda'u calonnau a 'does dim amheuaeth gennym y bydd miliynau lawer yn pleidleisio dros UKIP a helpu'r blaid i wneud yn well na'r disgwyl."

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, fod ei phlaid yn cynnig ffordd i "newid gwleidyddiaeth yn gyflym".

"Rydym yn sefyll dros swyddi newydd, trethi teg, neges glir i ddiwydiant fuddsoddi mewn ynni glân a gwell cydraddoldeb," meddai.