Anrhydeddu milwyr a gollwyd yn Ypres

Battle of Ypres painting Image copyright Newport Museum and Art Gallery’
Image caption Mae darlun o'r bataliwn cyntaf o Gatrawd Sir Fynwy i'w weld yn Amgueddfa Casnewydd

Bydd dynion oedd yn aelodau o gatrawd o dde Cymru fu farw yn ail frwydr Ypres yn cael eu cofio mewn gwasanaeth arbennig yng Ngwlad Belg.

Bydd y gwasanaeth coffa yn Fflandrys yn anrhydeddu'r Bataliwn Cyntaf a Thrydydd Bataliwn Catrawd Sir Fynwy ddydd Gwener.

Mae'r digwyddiad yn Ypres yn nodi canrif ers y frwydr fawr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin Gwent wedi trefnu'r gwasanaeth fel rhan o daith i feysydd y gâd Ypres a'r Somme sy'n dechrau ddydd Iau.

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas Peter Strong bod 8 Mai, 1915 yn ddiwrnod "sy'n haeddu cael ei gofio".

Ar ddechrau'r frwydr ar 8 Mai roedd 1,020 o filwyr ac 83 o swyddogion o drydydd bataliwn Catrawd Sir Fynwy a 588 o filwyr y bataliwn cyntaf yn wynebu'r Almaenwyr.

Bu farw 439 o aelodau'r bataliwn cyntaf, a dim ond 4 swyddog a 131 o filwyr y trydydd bataliwn oedd yn dal yn fyw.

Cymaint oedd y colledion fel y cafodd y tri bataliwn eu huno yn fuan wedyn.

Daeth y diwrnod i gael ei ddisgrifio fel 'Diwrnod Du Sir Fynwy' pan ddaeth y marwolaethau i'r amlwg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.