Andrew RT Davies: 'Church yn sosialydd dosbarth canol'

Charlotte Church Image copyright Wales News Service

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi galw'r gantores Charlotte Church yn "sosialydd dosbarth canol" ar ôl iddi feirniadu buddugoliaeth y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Fe wnaeth Ms Church, sy'n fam i ddau o blant, annerch tua 200 o ymgyrchwyr ar Heol y Frenhines ddydd Sadwrn.

Dywedodd ei bod yn teimlo'n "sâl" gyda chanlyniad yr etholiad.

Ddydd Sul, dywedodd Andrew RT Davies bod sylwadau Ms Church yn "anffodus ac amhriodol".

'Sosialwyr dosbarth canol'

Daeth ymddangosiad Ms Church ar ôl i'r gantores feirniadu'r Ceidwadwyr yn hallt ar Twitter yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd wrth y dorf bod y DU wedi "condemnio" ei hun i bum mlynedd arall o lywodraeth Geidwadol.

Image caption Dywedodd Andrew RT Davies bod Sylwadau Ms Church yn 'amhriodol'

Wrth ymateb, dywedodd Mr Davies bod y "sosialwyr dosbarth canol" yn sefyll ochr yn ochr.

"Ar ddiwedd y dydd, mae difrïo'r etholwyr, sydd newydd benderfynu, o fewn 48 awr o'r etholiad, yn anffodus ac amhriodol."

Ychwanegodd nad oedd y Ceidwadwyr "erioed wedi cymryd unrhyw un yn ganiataol", a bod y blaid wedi mwynhau'r canlyniad gorau mewn 32 o flynyddoedd.

"Nid ydyn ni'n chwilio am bŵer," meddai, "rydyn ni'n chwilio am gyfrifoldeb".

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb Ms Church.

Straeon perthnasol