Howells a Flynn yn beirniadu cyn arweinydd, Ed Miliband

Kim Howells
Image caption Roedd Kim Howells yn Aelod Seneddol Llafur ym Mhontypridd

Mae cyn weinidog Llafur, Kim Howells, wedi beirniadu cyn arweinydd y blaid, Ed Miliband am ei neges etholiad "truenus".

Yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd y cyn AS dros Bontypridd bod Llafur wedi methu a chysylltu gyda miliynau o deuluoedd dros Brydain oedd yn teimlo'n optimistaidd am y dyfodol.

Fore Sul, dywedodd Aelod Seneddol Llafur, Paul Flynn bod Ed Miliband wedi bod yn andwyol fel arweinydd y blaid.

"Dydyn nhw ddim yn cefnogi'r neges druenus yr oedd Miliband yn ei gynnig," meddai.

"Mae'n warthus dweud y gwir ein bod ni wedi gadael i'n plaid, y blaid Lafur fawr, i ddisgyn i'r dyfnder yma."

'Rhy gyfeillgar'

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement, dywedodd Mr Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, mai Miliband oedd un o brif achosion colled y blaid yn yr etholiad.

Image caption Dywedodd Paul Flynn ei fod yn cefnogi Chuka Umunna fel arweinydd nesaf y blaid

Gofynnodd Vaughan Roderick iddo os oedd Mr Miliband yn rhan o'r broblem yn y golled.

Dywedodd: "Mae gen i ofn... mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'n archwiliad o hyn.

"Rydyn ni'n rhy gyfeillgar yn y blaid Lafur i gael gwared ar arweinwyr ond dwi'n meddwl ei fod yn glir ei fod yn berygl ers y diwrnod cyntaf."

Ychwanegodd Mr Flynn y byddai'n cefnogi Chuka Umunna i arwain y blaid nesaf.

"Mae'n weddol bell ohona'i ar sbectrwm y blaid Lafur ond fo yw'r un gyda'r holl sgiliau cyflwyno a'r un fydd yn gwneud y swydd orau," meddai.

Mr Flynn oedd yr unig Aelod Seneddol neu Aelod o Senedd Ewrop ar ran y Blaid Lafur, wnaeth roi Ed Miliband yn olaf ar ei bapur pleidleisio yn y gystadleuaeth ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2010.

Straeon perthnasol