Hogan yn serennu i Forgannwg yn erbyn Caint

Michael Hogan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Michael Hogan oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg

Mae Caint wedi gwneud dechrau da yn eu gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Morgannwg.

Sgoriodd Daniel Bell-Drummond 123 wrth i Gaint gyrraedd 330-8 oddi ar 95.1 pelawd.

Wrth i Bell-Drummond edrych yn gyfforddus llwyddodd Michael Hogan i gipio wicedi Joe Denly a Brendan Nash cyn i Meschede gymryd wiced Sam Northeast.

Hogan hefydd llwyddodd i gael Bell-Drummond yn ôl i'r pafiliwn, cyn i Darren Stevens, yr unig un o weddill batwyr Caint i wneud argraff ar y gêm, golli ei wiced i Graham Wagg am 50.

Hogan oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg, gan orffen gyda ffigyrau o 4-53.