Galw am rwydwaith canolfannau Cymraeg

Heini Gruffudd
Image caption Fe ddywed Heini Gruffudd fod rhwydwaith o ganolfannau Cymraeg yn 'allweddol'

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw am sefydlu rhwydwaith o ganolfannau dysgu Cymraeg i oedolion tebyg i rai Popeth Cymraeg.

Wrth i'r drefn o gyllido Cymraeg i Oedolion gael ei newid, mae'r mudiad yn dweud bod rhwydwaith o'r fath yn allweddol.

Mae Popeth Cymraeg eisoes wedi sefydlu canolfannau dysgu yn Ninbych, Llanrwst, Prestatyn a Bae Colwyn gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a'r Loteri Genedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.25 miliwn i sefydlu canolfannau i hyrwyddo'r Gymraeg ac mae datblygiadau ar y gweill yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Wrecsam.

'Dewrder'

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd: "Mae cael rhwydwaith o ganolfannau cymdeithasu a dysgu Cymraeg yn allweddol i roi cyfleoedd siarad ac i ddod â siaradwyr, dysgwyr a phobl ifanc at ei gilydd.

"Mae Ioan Talfryn a'i swyddogion {Popeth Cymraeg} wedi dangos dewrder a menter wrth sefydlu eu canolfannau. Maen nhw'n cynnig model ardderchog i'w efelychu ledled Cymru.

"Rydyn ni'n gobeithio hefyd y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda sefydliad Popeth Cymraeg, a gyda chanolfannau eraill sydd eisoes yn bod, fel Saith Seren Wrecsam, fel bod cydlynu call yn digwydd rhwng llywodraeth ganol, Cymraeg i Oedolion, a'r canolfannau Cymraeg unigol."

Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i'r alwad.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn y cyfamser mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ychwanegu at ddyletswyddau a chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel yr unig ffordd o sicrhau ei ddyfodol.

Disgwylir cyhoeddiad buan gan Lywodraeth Cymru am bwy fydd yn cael cytundeb i arwain maes Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol, ac mae'r Gymdeithas yn pwyso am roi'r swyddogaeth hon i'r Coleg Cymraeg.

Mae'r Gymdeithas hefyd wedi dechrau trafod gyda phleidiau gwleidyddol yng Nghymru am yr hyn a fydd yn eu maniffestos ar gyfer Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, ac wedi gwneud cynyddu gwaith y Coleg Cymraeg yn un o'r prif gynigion.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Un o lwyddiannau'r llywodraeth ddiwethaf oedd sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond, wedi 5 mlynedd, ni all sefyll yn ei unfan.

"Mae'n amser i'r Coleg gymryd naid fawr ymlaen neu wynebu bygythiad i'w ddyfodol. Os bydd y Coleg yn aros fel un chwaraewr bach yn unig yn y farchnad gystadleuol addysg uwch a sefydlwyd gan San Steffan, wedyn bydd mewn sefyllfa o wendid a bydd yn demtasiwn i lywodraeth gwtogi ar ei gyllideb.

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw'n hytrach am ddatblygu'r Coleg yn bwerdy addysg uwch Gymraeg.

Straeon perthnasol