Dianc o'r Wladfa

Cymry Patagonia ar fwrdd y Numidian ar y ffordd i Ganada Image copyright f
Image caption Cymry Patagonia ar fwrdd y Numidian ar y ffordd i Ganada

Eleni mae 'na ddathliadau mawr wedi bod i nodi 150 sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Ond wnaeth pawb oedd ar fwrdd y Mimosa ddim setlo'n barhaol yn Ne America. Yn 1902 mi aeth rhai ohonyn nhw ar ail antur i Ganada.

Yr hanes hwn sy'n ganolbwynt i Lleisiau Patagonia ar S4C dros y Nadolig. Am y tro cyntaf erioed bydd cyfle i glywed profiadau personol rhai o'r mewnfudwyr yn eu geiriau eu hunain. Dyma i chi chydig o gefndir yr hanes:


Gwlad newydd

Wedi i'r ymfudwyr cynta' lanio ar draethau Puerto Madryn ar 28 Gorffennaf 1865, fe ddaeth hi'n amlwg eu bod nhw'n wynebu caledi sylweddol. Bu'n rhaid byw mewn ogofáu tra bod y dynion yn chwilio am gynhaliaeth drwy hela am fwyd a dŵr

Erbyn 1896, roedd dros 2,500 o Gymry Cymraeg wedi setlo ym Mhatagonia.

Ond yn 1892 fe ddaeth hi'n amlwg fod llawer o'r gwladfawyr wedi eu dadrithio gyda'r amgylchiadau. Dyma Asiant Mewnfudo Lerpwl felly yn cysylltu ag Awdurdodau Canada.

Wedi i ddau Gymro ymfudo i Ganada, penderfynodd grŵp o 30 symud i Saskatchewan, Canada. Fe deithiodd cynrychiolwyr o Ganada, W.L Griffiths a W.J Rees, i Batagonia i helpu gyda'r trefniadau, gyda'r addewid gan Lywodraeth Canada fod tir wedi ei neilltuo ar eu cyfer.

Yn 1899 fe ddechreuodd hi fwrw glaw yn drwm am dros dair wythnos a achosodd i afon Chupat orlifo gan orfodi sawl teulu o'u cartrefi. Fe ddinistriodd y llifogydd dros gant o gartrefi, wyth capel, pump ysgol a thair swyddfa bost.

Dyma ddechrau ar rai o flynyddoedd mwyaf tywyll yn hanes y Wladfa Gymreig gyda'r afon yn gorlifo'i glannau dair gwaith eto. Wedi digalonni, fe ddaeth nifer ohonyn nhw i'r casgliad nad oedd llawer o ddyfodol iddyn nhw yno. Penderfynodd rhai droi eu cefnau ar y Wladfa oherwydd anghydfod rhyngddyn nhw a'r Llywodraeth.

Fe benderfynodd grŵp bychan o ymfudwyr adael ddiwedd 1901, gan dalu eu costau eu hunain.

Tlodi

Ond doedd pawb ddim mor lwcus, gyda'r rhan fwyaf o'r Cymry'n rhy dlawd i ystyried ymfudo. Cafodd cronfa arbennig ym Mhrydain ei sefydlu i geisio darparu cymorth ariannol.

Daeth cyfraniadau gan Dywysog Cymru; Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau; a nifer o Aelodau Seneddol o Gymru.

Cafodd £10,000 ei godi i helpu trefnu llong siarter, ynghyd â chyfraniad gan Lywodraeth Canada ar ffurf cymorthdal o £1 y pen. Fe lwyddodd y llywodraeth hefyd i berswadio Rheilffordd Canadian Pacific i leihau pris tocyn o $5 yr un o Québec i ranbarth The Prairies.

Yn Ebrill 1902, felly, fe gyrhaeddodd 30 o Batagoniaid Cymreig Winnipeg. Ond ar ôl cael eu siomi gydag ansawdd y tir yn Grenfell a Assiniboia yn ne Saskatchewan, fe symudon nhw i ardal Saltcoats, a chytuno ar sawl milltir o dir yr un.

Antur newydd

Yn sgil y llwyddiant, fis yn ddiweddarach, fe benderfynodd 230 o ymfudwyr eu dilyn ar y daith, gan adael Puerto Madryn a chyrraedd Lerpwl ar fwrdd llong yr Orissa. Penderfynodd 22 ohonyn nhw fynd adref i Gymru, ond parhau wnaeth yr antur i'r gwedill ohonyn nhw ar fwrdd y Numidian.

Dim ond dau deulu o blith y teithwyr fuodd yn yr Ariannin ers yr ymfudiad cynta' yn 1865, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ymfudo o Brydain yn 1886.

Erbyn i'r llong gyrraedd Winnipeg roedd nifer y teithwyr wedi gostwng i 197. Bu farw rhai o'r anturiaethwyr yn ystod y fordaith.

Image copyright Wrecksite.eu
Image caption Yr RMS Orissa, y llong wnaeth gludo 230 o ymfudwyr Patagonia yn ôl i Brydain

Erbyn 1912 roedd Eglwys Bresbyteraidd wedi ei sefydlu a'r gwasanaethau yn cael eu cynnal yn Gymraeg.

Ond fel y rhan fwyaf o wladfeydd Cymraeg, mi fethodd y fenter greu parhad diwylliannol yn Saskatchewan. Wrth i Gymry Cymraeg briodi meibion a mercehd brodorol buan y diflannodd yr aelwydydd Cymraeg. Roed hi'n anodd o dan amgylchiadau felly i gynnall y capel ac addysg Gymraeg.

Erbyn heddiw, dim ond gweddillion yn y tirwedd a'r gymuned sy'n parhau fel tystiolaeth o'r gymuned a'r weledigaeth, gan gynnwys enwau ardaloedd, fel Bangor, yn ne ddwyrain y dalaith.

Lleisiau Patagonia, S4C Nos Fawrth, 29 Rhagfyr, 21:30

Am ragor o erthyglau nodwedd ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, ewch i dudalen arbennig Cymru Fyw.