Arsenal 0-1 Abertawe

Bafetimbi Gomis Image copyright Reuters

Fe wnaeth Abertawe sicrhau thri phwynt enwog nos Lun wrth iddyn nhw drechu Arsenal o 0-1 yn Stadiwm Emirates.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl yn dilyn hanner cyntaf ble bu cyfleoedd yn brin.

Y tîm cartref oedd yn pwyso yn yr ail hanner, gyda golwr Abertawe, Lukasz Fabianski, yn gwneud cyfres o arbediadau da o ergydion Olivier Giroud, Alexis Sanchez a'r Cymro Aaron Ramsey.

Ond Abertawe aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae bum munud o ddiwedd y 90 wrth i Bafetimbi Gomis gyfarfod croesiad Jefferson Montero i benio dros y llinell gôl.

Er i golwr Arsenal, David Ospina, ddadlau nad oedd y bêl wedi croesi'r llinell, roedd y dechnoleg llinell gôl yn dangos ei fod wed croesi o ychydig fodfeddi.

Mae'r canlyniad yn golygu bod gobaith i Abertawe gipio'r chweched safle i sicrhau y bydden nhw yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Maen nhw ddau bwynt o'r chweched safle ar hyn o bryd, gyda dwy gêm ar ôl nes diwedd y tymor.